BYDD Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cynnal eu cyfarfod Bwrdd bob deufis yr wythnos nesaf.
Bydd Cyfarwyddwyr Gweithredol ac Anweithredol yr Ymddiriedolaeth yn ymgynnull yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Casnewydd (ICC) ddydd Iau 24 Mawrth, a gall y cyhoedd ymuno drwy Zoom.
Dywedodd y Cadeirydd Martin Woodford: “Wrth i ni ddysgu byw gyda Covid-19, mae cyfarfod yr ICC yr wythnos nesaf yn gyfle cyffrous i’r Bwrdd gwrdd yn bersonol i drafod ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol a myfyrio ar y gorffennol diweddar.
“Byddwn yn trafod ac yn anelu at gymeradwyo ein Cynllun Tymor Canolig Integredig tair blynedd a’r gyllideb gysylltiedig ar gyfer blwyddyn un (2022/23), yn ogystal â’n huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.
“Mae rhoi cyfle i’r cyhoedd ymuno â ni’n fyw ar-lein a gofyn cwestiynau yn ffordd wych i bobl glywed yn uniongyrchol sut rydym yn gweithio i fynd i’r afael â’r heriau ar draws y system.”
Cliciwch yma i gofrestru lle yn y cyfarfod, sy'n dechrau am 09.30am.
Gallwch rag-gyflwyno cwestiwn i’r Bwrdd drwy anfon e-bost at AMB_AskUs@wales.nhs.uk , a bydd aelodau’n ymdrechu i’w hateb yn ystod y trafodion.
Bydd cyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain yn bresennol ar Zoom i sgriptio’r cyfarfod ar gyfer y rhai sydd ag anawsterau clyw.
Bydd agenda lawn ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn fuan.