DATHLODD Gwasanaethau Ambiwlans Cymru eu staff a'u gwirfoddolwyr hir eu gwasanaeth mewn seremoni wobrwyo yn y canolbarth ddydd Mawrth.
Cyflwynwyd medalau i gydweithwyr sydd wedi bod yn 20, 30 a 40 mlynedd o wasanaeth ym Mhafiliwn Canolbarth Cymru yn Llandrindod yn y trydydd o chwe digwyddiad ledled Cymru eleni i gydnabod hyd gwasanaeth.
Cyflwynwyd Medal Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da y Frenhines hefyd i gydweithwyr sydd ag 20 mlynedd yn y Gwasanaeth Meddygol Brys gan Arglwydd Raglaw Powys, Mrs Tia Jones.
Ymhlith y gwesteion nodedig eraill roedd Uchel Siryf Powys, Mr Tom Jones Ysw OBE, a’r Is-gyrnol Kevan Thornber o’r 160fed Brigâd (Cymreig).
Hefyd yn bresennol roedd Steve Jarvis, Swyddog Ymateb Meddygol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a Phrif Swyddog Gweithredu Ambiwlans Sant Ioan Cymru Ben Savage a Phennaeth Gweithrediadau Cymunedol Darren Murray.
Dywedodd y Prif Weithredwr Jason Killens: “Mae ein Gwobrau Gwasanaeth Hir yn gyfle gwych i gydnabod a dathlu enaid Gwasanaeth Ambiwlans Cymru – ei bobl – ac yn benodol, hyd eu gwasanaeth.
“Nid dim ond unrhyw swydd yw gweithio i’r gwasanaeth ambiwlans – mae’n swydd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
“Yn aml pan fo pobl ar eu trai isaf, ein staff ni yw’r bobl maen nhw’n troi atyn nhw, ac mae’n cymryd pobl ryfeddol i wneud y gwaith rhyfeddol maen nhw’n ei wneud, o ddydd i ddydd.
“Mae'n syfrdanol meddwl bod yr holl Wobrau Gwasanaeth Hir a gyflwynwyd gennym yn cyfrif am fwy na 250 mlynedd o wasanaeth.
“Heddiw a phob dydd, rydyn ni’n diolch i gydweithwyr am eu gwasanaeth.”
Mae mwy na 400 o gydweithwyr ar draws yr Ymddiriedolaeth wedi cael eu gwahodd i dderbyn Gwobr Gwasanaeth Hir eleni, y digwyddiadau gwobrwyo personol cyntaf ers 2019 oherwydd pandemig Covid-19.
Ychwanegodd y Cadeirydd Martin Woodford: “Y rheswm pam mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yw ei bobl sy’n gweithio’n ddiflino, 24/7, i wasanaethu pobl Cymru.
“Yr hyn sy'n arbennig am ddigwyddiadau eleni yw mai dyma'r tro cyntaf yn ein hanes i'n gwirfoddolwyr sydd wedi gwasanaethu ers tro gael eu cydnabod hefyd.
“Yn eu plith mae ein Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned hiraf ei wasanaeth, Martyn Price, sydd wedi ymroi dros 20 mlynedd o'i fywyd i helpu pobl yng nghymuned Rhaeadr.
“Y llynedd, fe wnaethom lansio ein Strategaeth Gwirfoddolwyr gyntaf, sy'n nodi sut y bydd gwirfoddolwyr yn cael eu cefnogi'n well i gyflawni eu rôl a'u hintegreiddio'n well i'r gweithlu.
“Roedd yn gwneud synnwyr perffaith, felly, i gydnabod eu hymrwymiad i bobl Cymru yn yr un ffordd ag yr ydym yn cydnabod staff.
“Llongyfarchiadau i bob un o’n derbynwyr.”
Nodiadau y Golygydd
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y Pennaeth Cyfathrebu Lois Hough ar 07866887559 neu e- bostiwch Lois.Hough@wales.nhs.uk