Neidio i'r prif gynnwy

Canmol cydweithwyr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru am wasanaeth hir

Dathlodd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru eu staff a’u gwirfoddolwyr hir eu gwasanaeth mewn seremoni wobrwyo yng Ngorllewin Cymru heddiw.

Cyflwynwyd medalau i gydweithwyr gyda 20, 30 a 40 mlynedd o wasanaeth yng Ngwesty a Sba Cliff Aberteifi yn yr ail o dri digwyddiad ledled Cymru i gydnabod hyd gwasanaeth.

Cyflwynwyd Medal Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da hefyd i gydweithwyr sydd ag 20 mlynedd yn y Gwasanaeth Meddygol Brys gan gynrychiolydd y Brenin yn Nyfed, yr Arglwydd Raglaw
Sara Edwards.

Yr oedd Uchel Siryf Uchel Siryf Dyfed , Meurig Raymond , hefyd ymhlith y gwesteion nodedig.

Dywedodd y Prif Weithredwr Jason Killens:
“Mae’r pwysau ar y GIG dros y tair blynedd diwethaf wedi profi ein gwydnwch corfforol ac emosiynol fel erioed o’r blaen.

“Pan mae pethau'n anodd, mae'n hawdd anghofio dweud 'diolch' a dyna pam ei bod hi'n bwysig iawn cymryd amser mewn digwyddiadau gwobrwyo i gydnabod cydweithwyr am eu gwaith gwych ac yn arbennig, hyd eu gwasanaeth.

Mae Gwobrau Gwasanaeth Hir yn gyfle gwych i ddathlu enaid Gwasanaeth Ambiwlans Cymru – ei bobl.

“Nid dim ond unrhyw swydd yw gweithio i’r gwasanaeth ambiwlans – mae’n swydd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Yn aml pan fo pobl ar eu trai isaf, ein staff ni yw’r bobl maen nhw’n troi atyn nhw, ac mae’n cymryd pobl ryfeddol i wneud y gwaith rhyfeddol maen nhw’n ei wneud, o ddydd i ddydd.

“Mae'n syfrdanol meddwl bod yr holl Wobrau Gwasanaeth Hir a gyflwynwyd gennym heddiw yn fwy na 350 mlynedd o wasanaeth.

“Heddiw a phob dydd, rydyn ni’n diolch i gydweithwyr am eu gwasanaeth.”

Mae bron i 200 o gydweithwyr ar draws yr Ymddiriedolaeth wedi cael gwahoddiad i dderbyn Gwobr Gwasanaeth Hir eleni.

Daeth derbynwyr y digwyddiad heddiw o Ddinbych-y-pysgod, Llanidloes, Abertawe, Cei Newydd, Doc Penfro, Llangynnwr, Llanelli a Llanbedr Pont Steffan.

Yn eu plith roedd parafeddygon, technegwyr meddygol brys, rheolwyr gweithrediadau, rheolwyr diogelwch cleifion a chlinigwyr ystafell reoli.

Cafodd Cyfarwyddwr Parafeddyg yr Ymddiriedolaeth, Andy Swinburn, ei gydnabod hefyd am 30 mlynedd o wasanaeth yn y GIG.

Dywedodd Dr Kevin Davies, Is-Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth:   “Y rheswm pam mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yw ei bobl sy’n gweithio’n ddiflino, 24/7, i wasanaethu pobl Cymru.


“Mae ein holl staff a gwirfoddolwyr yn chwarae rhan mewn achub bywydau ac rwy’n hynod falch o’u cyflawniadau.

“Llongyfarchiadau i bob un o’n derbynwyr.”

Nodiadau y Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y Pennaeth Cyfathrebu Lois.Hough@wales.nhs.uk neu ffoniwch Lois ar 07866887559.