Neidio i'r prif gynnwy

Dweud eich dweud ar ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi gofyn i’n defnyddwyr gwasanaeth, staff a rhanddeiliaid rannu eu barn â ni ar sut y gallwn wneud Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn fwy cynhwysol.

Diolch i bawb sydd wedi rhannu sylwadau ac ymgysylltu â ni mewn digwyddiadau cymunedol ledled Cymru.

Rydym wedi defnyddio’r wybodaeth rydych wedi’i rhannu â ni i ddrafftio ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy’n nodi ein hamcanion ar gyfer y pedair blynedd nesaf.

Os hoffech wneud sylwadau ar ein cynllun drafft neu roi adborth, gwnewch hynny cyn dydd Gwener 12 Ionawr. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â:

Pennaeth Cynhwysiant ac Ymgysylltu

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru,

Matrics Un,

Rhodfa ogleddol,

Parc Menter Abertawe,

Abertawe, SA6 8RE

Ffôn: 01792 311773

E-bost : AMB_Inclusion@wales.nhs.uk