Neidio i'r prif gynnwy

Rhestr fer gwobrau WAST wedi'i chyhoeddi

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer ei wobrau WAST flynyddol.

Cafwyd mwy na 350 o enwebiadau ar draws 16 categori, gan gynnwys Tîm y Flwyddyn, Ymatebwr Cyntaf Cymunedol y Flwyddyn a’r Wobr Gwasanaeth Meddygol Brys.

Gwahoddwyd staff, gwirfoddolwyr a’r cyhoedd i bleidleisio mewn chwe chategori, tra penododd panel o arweinwyr traws-wasanaeth a chynrychiolwyr staff y rhestr fer ar gyfer y lleill.

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi partneru gyda noddywr The Ortus Group i gynnal y digwyddiad eleni.

Cliciwch yma i ddatguddio rhestr fer Gwobrau WAST 2023.

Dywedodd Brif Weithredwr Jason Killens: “Ein staff a’n gwirfoddolwyr yw curiad calon ein gwasanaeth, ac ni fyddwn yn gallu gweithredu hebddynt.

“Rydym yn falch o fod yn dathlu eu cyflawniadau ac i fod yn taflu goleuni haeddiannol iawn ar eu cyfraniadau eleni.

“Mae’n anhygoel clywed am y nifer o enwebiadau rydym wedi derbyn eleni, a oedd 100 yn fwy na’r llynedd.

“Mae hyn yn wir dyst i ymroddiad ein staff a’n gwirfoddolwyr dros y 12 mis diwethaf, ac rydw i am ddiolch yn bersonol i bob un ohonynt am eu gwaith caled wrth wasanaethu ein cymunedau.

“Mae’r enwebiadau eleni o safon uchel iawn, ac a dweud y gwir mae pawb yn haeddu gwobr.

“Fodd bynnag, mae ein rhestr fer wir yn amlygu’r gorau o’n gorau.

“Diolch i bawb a gymerodd yr amser i gyflwyno enwebiad, p’un a ydych yn aelod o’r cyhoedd, neu’n un o’n cydweithwyr neu wirfoddolwyr.

“Mae eich enwebiadau’n golygu llawer i’n pobl.

“Hoffwn estyn llongyfarchiadau enfawr i bawb a gyrhaeddodd y rhestr fer, a diolch enfawr i The Ortus Group am wneud y digwyddiad eleni’n bosib.”

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ar 10 Hydref yng Nghanolfan Confensiwn Rhyngwladol yng Nghasnewydd.

Gall staff, gwirfoddolwyr a’r cyhoedd wylio drwy ffrwd fyw a chaiff y manylion ar gyfer hynny eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.

Defnyddiwch yr hashnod #GwobrauWAST23 i ymuno â’r sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae The Ortus Group yn darparu offer arbenigol ac atebion technoleg blaenllaw ar gyfer y gwasanaethau brys a’r sectorau eraill sy’n hanfodol i’n cenhadaeth.

The Ortus Group: The Ortus Group | Home