ROEDD Ymarferydd Parafeddygol Uwch o Ogledd Cymru yn westai arbennig mewn digwyddiad mawreddog i ddathlu merched ysbrydoledig.
Mynychodd Ema Geddes, sydd wedi’i lleoli yn Dobshill, Sir y Fflint, Ginio a Gwobrau Merched y Flwyddyn yn Llundain, a ddathlodd gyflawniadau 450 o fenywod a ddewiswyd yn arbennig o bob rhan o’r DU a ledled y byd sy’n gweithredu fel model rôl i eraill ar draws y sbectrwm cyfan o masnach, diwydiant a darparu gwasanaethau.
Gan wneud gwaith rhyfeddol a gwneud gwahaniaeth i eraill - o wasanaethu cymdeithas i achub bywydau, torri nenfydau gwydr ac adeiladu cymunedau - mae Merched y Flwyddyn yn cydnabod menywod y mae eu hymdrechion eithriadol heddiw yn paratoi'r ffordd ar gyfer menywod yfory.
Gwahoddwyd Ema, sydd wedi gweithio i’r Ymddiriedolaeth ers 18 mlynedd, ac fel Parafeddyg am 13 mlynedd, i fynychu am fod yn fenyw ysbrydoledig yng nghymuned y gwasanaethau brys.
Dywedodd y fam i ddau o blant, sy’n wreiddiol o Ben Llŷn: “Allwn i ddim credu’r peth pan ges i e-bost allan o’r glas ym mis Gorffennaf yn fy ngwahodd i fynychu.
“Roedd yn ddigwyddiad llawer mwy nag yr oeddwn wedi’i ragweld ac roedd yn anhygoel cael fy amgylchynu gan fenywod mor ysbrydoledig, pwerus a phenderfynol sydd wedi cyflawni pethau anhygoel.
“Fe wnaeth yr holl brofiad fy chwythu i ffwrdd.
“Dydw i erioed wedi bod i ddigwyddiad carped coch llawn sêr o’r blaen.
“Roedd yn wych cwrdd â gwesteion eraill gan gynnwys Penny Morduant, Emma Bunton, Tanni Grey-Thompson, Rachel Riley a’r Fonesig Brenda Hale, sef llywydd benywaidd cyntaf goruchaf lys gwledydd Prydain.
“Fi oedd yr unig gynrychiolydd o wasanaeth ambiwlans y DU, a gwisgais fy medal Jiwbilî platinwm gyda balchder mawr.
“Roedd yn wych dathlu gyda’n gilydd mewn diwrnod oedd yn galonogol, ysbrydoledig a theimladwy.”
Dilynwch y ddolen i ddysgu mwy am ddigwyddiad Merched y Flwyddyn: Cinio a Gwobrau Merched y Flwyddyn