MAE parafeddyg a gafodd ataliad ar y galon ac a ddaeth yn ôl oddi wrth y meirw saith gwaith wedi diolch y cydweithwyr a achubodd ei fywyd wrth iddynt gipio gwobr fawreddog.
Roed Ian Powell, Parafeddyg ym Merthyr Tudful, gartref gyda’i bartner Sian pan ddechreuodd teimlo poen yn ei frest.
Gan gydnabod bod Ian mewn trafferth, galwodd Sian, sydd hefyd yn barafeddyg, 999 a galw am gymorth.
Daeth y parafeddygon Jamie Shore a Chris Ellis, Technegydd Meddygol Brys Sarah James, Rheolwr Gweithrediadau ar Ddyletswydd Phill Wilkins a’r Rheolwr Ardal Vanessa Hughes i gymorth Ian gan benderfynu bod eu ffrind a’u cydweithiwr yn cael trawiad ar y galon.
Wrth iddyn nhw ei lwytho i mewn i ambiwlans, aeth y dyn 58 i ataliad y galon llawn.
Cofiodd Ian: “Dechreuais gael poen yn y frest yn y prynhawn, ond gwnes i roi fe lawr i ddiffyg traul.
“Aeth yn waeth yn raddol, i’r pwynt lle dywedodd Sian: ‘Dyna ni, dwi’n ffonio.’
“Dwi’n cofio cael fy nghario i’r ambiwlans a gofyn i’r criw: ‘Pa rythm ydw i mewn?’
“Pan welais i, dywedais i: ‘O diar, dyw hynny ddim yn dda.’
“Dydw i ddim yn cofio lot ar ôl hynny.”
Funudau’n ddiweddarach, cafodd Ian ataliad y galon.
Cafodd ei gludo i Ysbyty’r Tywysog Siarl ac Ysbyty Athrofaol Cymru yn ddiweddarach, lle cafodd stent yn ei rydweli coronaidd.
Rhoddodd sioc iddo gyda diffibriliwr saith gwaith i gyd.
Heddiw, cyflwynwyd Gwobr Gwasanaeth Meddygol Brys i’w gydweithwyr yn y Gwobrau WAST Gwasanaeth Ambiwlans Cymru am eu gweithredoedd cyflym.
Dywedodd Ian, sydd â bron i 40 mlynedd o wasanaeth: “Dw i mor ddiolchgar i bawb sy’n rhan o’m gofal, gwnaethon nhw jobyn ardderchog.
“Hebddyn nhw, fyddwn i ddim yma heddiw.”
Derbyniwyd mwy na 350 o enwebiadau ar gyfer Gwobrau WAST eleni, a chyhoeddwyd yr enillwyr mewn digwyddiad yng Nghasnewydd a noddwyd gan The Ortus Group.
Ymhlith yr enillwyr hefyd oedd Bob Heaney, tad i dri o blant, a dynnodd dieithryn llwyr allan o afon llif gyflym yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Bob, swyddog tai yng Nghyngor Sir Gâr: “Roedd hi’n ganol mis Rhagfyr ac ro’n i’n cerdded adref dros y bont yn Llandybie.
“Roedd fy nghwfl i fyny achos roedd hi’n bwrw glaw, ond digwydd bod edrychais i fyny i weld rhywbeth yn y dŵr.
“Sylweddolais mai person oedd e, felly gweiddais i: ‘Be chi’n ‘neud? Mae angen cot arnoch chi.’
“Ffoniais i 999 a dywedon nhw eu bod yn trefnu help, ond efallai y byddai’n cymryd tipyn o amser.
“Roedd hi’n bygddu a do’n i ddim yn meddwl roedd amser, felly rhoddais i’r ffôn ar sain uchel a’i osod i lawr ar y bont a neidiais i mewn i’r dŵr.”
Dywedodd Rheolwr Ardal Katie Stapleton, a enwebodd Bob ar gyfer y wobr Cydnabyddiaeth y Cyhoedd: “Gwnaeth Bob bob ymdrech posibl i achub bywyd y claf ar ôl cwympo i’r afon llif gyflym, gan roi ei fywyd mewn perygl drwy fynd i mewn i’r dŵr a thynnu nhw allan.
“Yna cefnogodd e’r claf ar y banc a chynorthwyo’r criw i gael y claf i fan diogel.
“Dangosodd dewrder eithriadol mewn amgylchiadau anodd iawn.”
Yn y cyfamser, enillodd Elen Jones, Derbynnydd Galwadau yn Llanfairfechan, Conwy, y Wobr Ganolfan Gyswllt Glinigol am helpu i eni babi cyn pryd dros y ffôn.
Dywedodd Gill Pleming, Pennaeth Gwasanaeth Cydlynu EMS: “Dangosodd Elen y proffesiynoldeb mwyaf trwy gydol yr alwad heriol iawn hon.
“Gwnaeth hi aros yn dawel ac mewn rheolaeth, gan dawelu meddwl y galwr fel y byddant yn dilyn ei chyfarwyddiadau.
“Mae ganddi agwedd gwych tuag at ei gwaith, ac ers y digwyddiad hwn, mae Elen wedi symud ymlaen i rôl Goruchwyliwr Derbynwyr Galwadau.”
Enillodd yr Ymatebwr Cyntaf Cymunedol Nick Ozzati wobr am Ddewis y Cyhoedd ar gyfer y cymorth a rhoddodd i deulu’r plentyn un flwydd oed Jack Howells a aeth yn ddifrifol sâl ar ôl cwympo yn y cartref yn Nrefach, ger Cross Hands ym mis Chwefror.
Rhestr lawn o enillwyr:
Gwobr Gwasanaeth Meddygol
Gogledd: Mike Davies (Parafeddyg, Wrecsam)
Gorllewin: Taylor Jones (Technegydd Meddygol Brys, Llanelli) a Rebecca Hopkins (Parafeddyg, Llanelli)
De ganolbarth: Jamie Shore (Parafeddyg, Merthyr Tudful), Sarah James (Technegydd Meddygol Brys, Merthyr Tudful), Chris Ellis (Parafeddyg, Merthyr Tudful), Sian Griffiths (Parafeddyg, Merthyr Tudful) a Phil Wilkins (Rheolwr Gweithrediadau Dyletswydd, Merthyr Tudful)
De-ddwyrain: Julie Hillier (Rheolwr Gweithrediadau Dyletswydd, Caerdydd)
Gwobr Gofal Ambiwlans
Gogledd: Anita Owen (Rheolwr Canolfan Cenedlaethol NETPS NET, Llanfairfechan)
Canolbarth a Gorllewin: Jennie Reynolds (Cynorthwyydd Gofal Ambiwlans, Abergwaun)
De-ddwyrain: Poppy Richards (Cynorthwyydd Gofal Ambiwlans, Cwmbrân)
Gwobr Canolfan Gyswllt Glinigol
Gogledd: Elen Jones (Goruchwylydd Derbynwyr Galwadau, Llanfairfechan)
Canolbarth a Gorllewin: Kirsty Williams (Rheolwr Cynorthwyol EMS, Llangunnor)
De-ddwyrain: Michelle Perry (Rheolwr Gwella Ansawdd EMD, Llangynnwr)
Gwobr Gwasanaethau Cymorth
Tîm Profiad Cleifion ac Ymgysylltu Cymunedol
Gwobr Ymatebwr Cyntaf Cymunedol y Flwyddyn
Effie Cadwallader (Ymatebwr Cyntaf Cymunedol Gwirfoddol, Wrecsam)
Tîm Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol y Flwyddyn
Tîm Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol Gwirfoddol Cross Hands
Gwobr Gyrrwr Gwasanaeth Car Gwirfoddol y Flwyddyn
Ian Cross (Gyrrwr Gwasanaeth Car Gwirfoddol, Pont-y-pŵl)
Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn
Patricia Haigh (Gyrrwr Gwasanaeth Car Gwirfoddol, Llanelwy)
Gwobr Tîm y Flwyddyn
Tîm Iechyd Galwedigaethol a Lles
Gwobr Gail Williams
Philip Nicol (Technegydd Meddygol Brys, Machynlleth) a Petra Gross (Technegydd Meddygol Brys, Machynlleth)
Gwobr Ysbrydoli Eraill
Gogledd: Ceri Roberts (Rheolwr Rheoli Dyletswydd, Llanfairfechan)
Canolbarth a Gorllewin: Katherine Abbott (Rheolwr Swyddfa, Abertawe)
De-ddwyrain: Laura Stephen (Rheolwr Cymorth Prosiect, Cwmbrân)
Gwobr Gwrandäwr Gwych
Gogledd: Gina Hughes (Uwch Glinigydd, Llanelwy)
Canolbarth a Gorllewin: Carolyn Lewis (Ymarferydd Lles, Abertawe)
De-ddwyrain: Chris Willis (Rheolwr Ardal, Caerdydd)
Gwobr Dysgu ac Arloesedd
Bethan Jones (Pencampwr Diogelwch Lleol – Mamolaeth, Cwmbrân)
Gwobr Cydnabyddiaeth y Cyhoedd
Bob Heaney
Gwobr Dewis y Bobl
Nick Ozzati (Ymatebwr Cyntaf Cymunedol Gwirfoddol, Llanelli)
Gwobr y Gymraeg
Jason Jones (Rheolwr Cyflenwi Cyfalaf, Abertawe)
Gwobr y Cadeirydd
Tîm Gweithio i Wella
Gwobr y Prif Weithredwr
Karis Price (Swyddog Cymorth Cydymffurfiaeth Wirfoddol, Llanelwy)
Dywedodd y Prif Weithredwr Jason Killens: “Ein pobl yw curiad calon y sefydliad hwn, ac yn syml, ni allem weithio hebddynt.
“Nid dim ond unrhyw swydd yw gweithio i Wasanaeth Ambiwlans Cymru – mae’n swydd sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn.
“Pan fydd pobl ar eu hisaf, wedi’u hanafu, yn agored i niwed ac yn sâl, ni yw’r bobl y maen nhw’n troi atyn.
“Heddiw, rydym yn dathlu popeth sy’n wych am y sefydliad hwn ac yn diolch i’n staff a’n gwirfoddolwyr am y gwaith rhyfeddol maent yn ei wneud, o ddydd i ddydd.
“Diolch i’r rhai a gymerodd yr amser i gyflwyno enwebiad neu fwrw pleidlais.
“Diolch hefyd i’n prif noddwr The Ortus Group, yn ogystal ag Alumni Global am ei garedigrwydd o noddi dau hamper moethus.”
Mae The Ortus Group yn darparu offer arbenigol ac atebion technoleg blaenllaw ar gyfer y gwasanaethau brys a’r sectorau eraill sy’n hanfodol i’n cenhadaeth.
Mae Alumni Global yn cefnogi sefydliadau i nodi a datblygu’r arweinwyr iawn, y cymhwysedd a’r sgiliau sydd eu hangen, gan lywio’r ffordd ar gyfer llwyddiant busnes.
Defnyddiwch yr hashnod #GwobrauWAST23 i ymuno â’r sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol.
Defnyddiwch yr hashnod #GwobrauWAST23 i ymuno â’r sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol.