MAE Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gwahodd trigolion Dolgellau i ddysgu mwy am eu cynlluniau ar gyfer gorsaf newydd yn y dref.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn ceisio caniatâd gan Gyngor Gwynedd i newid defnydd yr hen ystafell arddangos ceir ar Ffordd y Bala, drws nesaf i Texaco, a’i adnewyddu’n adeilad gorsaf.
Os caiff cynlluniau eu cymeradwyo, byddai hefyd yn gartref i gyfleusterau gweinyddol a maes parcio ar y safle.
Gwahoddir preswylwyr i glinig galw heibio i weld y cynlluniau yn fwy manwl a gofyn cwestiynau i gynrychiolwyr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Cynhelir y clinig ddydd Mercher 30 Awst 2023 yn y Llyfrgell Rydd ar Stryd y Felin, Dolgellau, o 10.00am-4.00pm.
Nid oes angen cadw lle, ac mae croeso i bawb.