Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gynnal cyfarfod Bwrdd deufisol wythnos nesaf

BYDD Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cynnal ei gyfarfod Bwrdd deufisol wythnos nesaf.

Gall y cyhoedd ymuno drwy Zoom i glywed uwch arweinwyr yn trafod perfformiad a diogelwch cleifion.

Bydd aelod o’r cyhoedd a fu’n rhaid cludo eu tad-cu i’r ysbyty o ganlyniad i’r pwysau eithafol ar y gwasanaeth hefyd yn rhannu eu profiad.

Bydd y Prif Weithredwr yn trafod cynllunio ar gyfer y gaeaf a chynnydd ar gamau gweithredu i liniaru niwed i gleifion y gellir ei osgoi, a bydd cyfle hefyd i’r cyhoedd ofyn cwestiynau i’r Bwrdd.

Dywedodd y Cadeirydd Colin Dennis: “Mae cyfarfodydd Bwrdd yn ffordd wych o ddarganfod mwy am ein gwasanaeth ambiwlans, yn ogystal â gofyn cwestiynau i’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau.

“Mae nhw’n gyfle i glywed nid yn unig am waith sy’n digwydd yma ac yn awr i wella pethau i gleifion a staff, ond am ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.”

Cliciwch Yma i wylio cyfarfod y Bwrdd ddydd Iau 23 Tachwedd o 9.30am.

I gyflwyno cwestiwn o flaen llaw, anfonwch e-bost at
AMB_AskUs@wales.nhs.uk erbyn 4.30pm ddydd Mercher 22 Tachwedd fan hwyraf.

Bydd y cyfarfod hefyd yn cael ei ffrydio’n fyw i dudalen Facebook yr Ymddiriedolaeth, a bydd agenda ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn y dyddiau nesaf.

Nodiadau gan y golygydd

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Swyddog Cyfathrebu jeff.prescott@wales.nhs.uk neu ffoniwch Jeff ar 07811 748363.