Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn paratoi i gynnal ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Gall aelodau’r cyhoedd arsylwi’r cyfarfod unwaith y flwyddyn aelodau’r Bwrdd drwy Zoom ddydd Mercher 27 Medi 2023 o 9.30am.

Dysgwch fwy am gyflawniadau’r Ymddiriedolaeth o’r flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys lansio’r Uned Ymateb Aciwtedd Uchel Cymru, a chafodd ei sefydlu i wella cyfraddau goroesi ataliad ar y galon.


Bydd hefyd cyflwyniad arbennig ar weledigaeth yr Ymddiriedolaeth ar gyfer gwirfoddoli, a gall y cyhoedd ofyn cwestiynau i’r Bwrdd.

Dywedodd Colin Dennis, Cadeirydd: “Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd arall i bob un ohonom yn y GIG, ac nid yw Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi bod yn eithriad.

“Mae ein pobl yn parhau i weithio mewn system iechyd a gofal sydd ar adegau wedi cael ei orlethu.

“Er gwaethaf yr heriau, mae ein llwyddiannau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn drawiadol.

“Mae ein pobl wedi dod at ei gilydd ar bob lefel o’r sefydliad nid yn unig i ymateb i’r heriau maent yn eu hwynebu bob dydd, ond hefyd i wneud gwelliannau i wasanaethau, hebddynt byddai’r sefyllfa a wynebwyd gennym wedi bod yn llawer gwaeth.

“Mae ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle i ddysgu mwy am y gwelliannau hynny wrth i ni fyfyrio ar sut mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi teimlo i ni fel sefydliad, i’n pobl ac i’r bobl rydym yn eu gwasanaethu.

“Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni.”

Cliciwch 
yma i ymuno â’r cyfarfod Zoom ddydd Mercher 27 Medi 2023 o 9.30am, a fydd yn cael ei ffrydio’n fyw ar dudalen Facebook yr Ymddiriedolaeth.

Gall gwylwyr ofyn cwestiynau yn fyw drwy’r teclyn Holi ac Ateb ar Zoom, neu gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw trwy anfon e-bost at AMB_AskUs@wales.nhs.uk 

Yn y cyfamser, cliciwch
yma am yr agenda ac yma i ddarllen Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Ymddiriedolaeth ar gyfer 2022/23.

Bydd yr Ymddiriedolaeth hefyd yn cynnal ei chyfarfod deufisol y diwrnod canlynol, dydd Iau 28 Medi 2023, hefyd drwy Zoom.

Cliciwch
yma i gofrestru ar gyfer y cyfarfod sy’n dechrau am 9.30am, a bydd agenda ar ei gyfer ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn y diwrnodau cyn hynny.