MAE Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi penodi eu bydwraig arweiniol gyntaf i wella gofal i fenywod, pobl sy’n geni a’u babanod.
Mae Bethan Jones, bydwraig yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd, wedi'i phenodi'n Hyrwyddwr Diogelwch Lleol ar gyfer Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol i sicrhau bod menywod, pobl sy'n geni a'u babanod yn cael gofal diogel ac effeithiol.
Bydd y fam i ddau o blant yn gweithio gyda hyrwyddwyr eraill mewn byrddau iechyd lleol i safoni gwasanaethau ledled Cymru, yn ogystal â hybu hyfforddiant i staff.
Bydd Bethan hefyd yn archwilio ac yn datblygu’r cyfle i’r gwasanaeth ambiwlans gynnal Llinell Lafur 24/7.
Dywedodd Bethan, a oedd yn gwnselydd profedigaeth cyn hyfforddi fel bydwraig: “Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i wella ansawdd y gofal a ddarparwn i famau, babanod a’u teuluoedd.
“Mae menywod, pobl sy’n geni a babanod wrth galon y gwaith hwn, sydd wedi’i gynllunio i sicrhau eu bod nhw a’u teuluoedd yn cael gofal o’r safon uchaf, lle bynnag y bônt yng Nghymru.
“Mae staff ambiwlans yn gwasanaethu ystod eang o salwch ac argyfyngau, ac mae cael bydwraig wedi’i phenodi’n golygu y gallwn nawr ganolbwyntio’n benodol ar ofal mamolaeth a newyddenedigol, ac mae gwaith gwych wedi’i wneud yn y maes hwn eisoes.
“Mae pawb yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi bod yn groesawgar iawn, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y gwahaniaeth y gallwn ei wneud.”
Fis diwethaf, enillodd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ddwy wobr yn seremoni wobrwyo PROMPT (Practical Obstetric Multi-Professional Training) Cymru.
Enwyd y parafeddyg Lisa O'Sullivan, Arweinydd Clinigol y Bwrdd Iechyd yng Nghaerdydd a'r Fro a hwylusydd PROMPT Cymru, yn enillydd y Wobr Partneriaeth a Chydweithredol.
Yn y cyfamser, roedd y Parafeddyg Ymgynghorol a’r Arweinydd Clinigol Rhanbarthol Dros Dro Steve Magee yn ail yng nghategori Cefnogi Tîm Cenedlaethol PROMPT Cymru.
Yn 2021, arweiniodd Steve gyflwyniad pocedi cwtsh fel y gellir cludo babanod marw-anedig i'r ysbyty gyda thosturi.
Mae secondiad Bethan i'r gwasanaeth ambiwlans yn rhan o Raglen Gymorth Diogelwch Mamolaeth a Newyddenedigol Llywodraeth Cymru i wella diogelwch, profiad a chanlyniadau i famau a babanod yng Nghymru.
Mae hyrwyddwyr mamolaeth a newyddenedigol wedi’u penodi i bob bwrdd iechyd yng Nghymru fel rhan o dîm newydd sy’n adrodd i Brif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka.
Cânt eu cefnogi i ddechrau gan Gwelliant Cymru, y gwasanaeth gwella ar gyfer GIG Cymru, i gwmpasu a blaenoriaethu eu ffocws.
Dywedodd Wendy Herbert, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ansawdd a Nyrsio Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Mae hon yn rôl bwysig i Wasanaethau Ambiwlans Cymru ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu penodi rhywun mor brofiadol â Bethan i'r swydd.
“Mae ein staff eisoes yn gwneud gwaith gwych o ran cefnogi rhieni a gofalu am fabanod, ond rydyn ni'n gwybod y gall gorfod ffonio 999 pan fyddwch chi'n disgwyl babi fod yn brofiad brawychus.
“Bydd rôl yr Hyrwyddwr Diogelwch Lleol yn ein galluogi i edrych yn fanwl ar sut mae ein staff yn cael eu hyfforddi a sut rydym yn ymateb i ddigwyddiadau sy’n ymwneud â mamolaeth, gan wella gofal i famau, pobl sy’n geni a babanod ledled Cymru yn y pen draw.”
Nodiadau y Golygydd
Anfonwch e-bost at y Pennaeth Cyfathrebu Lois.Hough@wales.nhs.uk am ragor o wybodaeth neu
ffoniwch Lois ar 07866 887559.