MAE Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi penodi is-gadeirydd dros dro newydd.
Bydd Ceri Jackson, cyfarwyddwr anweithredol ers 2021, yn camu i rôl yr is-gadeirydd dros dro gan ddechrau fis nesaf.
Mae gyrfa 30 mlynedd Ceri yn y sector elusennol wedi mynd â hi ledled Cymru a’r DU ac mae’n cynnwys rolau fel Pennaeth Cymunedol RNIB, Cyfarwyddwr RNIB Cymru a Chyfarwyddwr Strategaeth a Thrawsnewid Dros Dro yn Nhŷ Hafan.
Mae hi wedi bod yn aelod o sawl Bwrdd yng Nghymru er mwyn helpu i adolygu polisi ac ymarfer ar draws ystod o feysydd gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol a thai.
Mae hi wedi bod yn ymddiriedolwr y Gymdeithas Strôc ers 2020 a chyn hynny roedd yn ymddiriedolwr a chadeirydd ar gyfer Sight Life, ac yn gadeirydd Cynghrair Henoed Cymru a Grŵp Cynghori Strategaeth Golwg Cymru.
Yn y cyfamser, bydd yr Athro Kevin Davies, cyfarwyddwr anweithredol ers 2015 a’r is-gadeirydd ers 2017, yn ailafael yn ei rôl cyfarwyddwr anweithredol dros dro tan fis Medi 2024.
Ac yntau’n athro nyrsio a gofal iechyd mewn trychineb, mae Kevin wedi cynghori ar lefel y llywodraeth ar ofal iechyd trychinebus, addysg a hyfforddiant yn y DU, UDA, Japan a Hong Kong, lle’r oedd yn gymrawd anrhydeddus ym Mhrifysgol Hong Kong.
Hyfforddodd fel nyrs yng Nghymru ar ddiwedd y 1970au ac ymunodd â'r Fyddin Diriogaethol yn 1983, ac yn ddiweddarach â'r Fyddin Reolaidd.
Fe’i penodwyd yn Aelod o Ddosbarth 1af y Groes Goch Frenhinol (Rhestr Filwrol) yn yr Anrhydeddau Pen-blwydd ym 1997 i gydnabod gwasanaethau i’r Llu Gweithredu ym Mosnia ym 1996.
Ef hefyd oedd nyrs anrhydeddus y Frenhines 2009-2012, fe’i penodwyd yn athro yn 2010 ac fe’i penodwyd yn MBE (Rhestr Sifil) yn y Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd yn 2012.
Dywedodd y Cadeirydd Colin Dennis: “Hoffem estyn diolch enfawr a diffuant i Kevin am ei gyfraniadau fel is-gadeirydd dros y chwe blynedd diwethaf.
“Hoffwn hefyd longyfarch Ceri ar ei phenodiad haeddiannol i’r swydd is-gadeirydd dros dro.”
Nodiadau y Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch Pennaeth Cyfathrebu Lois.Hough@wales.nhs.uk