Neidio i'r prif gynnwy

Gweithiwr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cael sylw yng ngorymdaith y Coroni

Mae Technegydd Meddygol BRYS wedi cynrychioli Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yng ngorymdaith coroni Brenin Siarl III.

Roedd Georgia Powell, a ymunodd â’r Ymddiriedolaeth fel Technegydd Meddygol Brys yn 2019, yn Leiniwr Stryd fel rhan o Ymgyrch Golden Orb, yr ymdrech ddiogelwch o amgylch coroni Ei Mawrhydi ddydd Sadwrn 06 Mai.

Roedd y dyn 34 oed yn un o 22 o gynrychiolwyr gwasanaethau ambiwlans y DU a oedd yn rhan o bresenoldeb y Gwasanaethau Sifil Lifrai ar Whitehall mewn cyfle a drefnwyd gan The Ambulance Staff Charity (TASC).

Dywedodd Georgia, o Gwmbrân: “Roedd yn ddiwrnod gwych ac roeddwn yn teimlo’n ffodus iawn i fod yn bresennol fel leiniwr stryd.

“Roedd yr awyrgylch o’r dorf yn anhygoel ac roedd fy merch bump oed yn gyffrous iawn fy mod i’n mynd i fod yn rhan o’r diwrnod.

“Mae’n rhywbeth y byddaf yn ei gofio am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau’r Ymddiriedolaeth: “ Rwy’n gobeithio y gall Georgia ymfalchïo’n fawr yn ei rhan yn y digwyddiad mawreddog a nodedig hwn.

“Mae trefnwyr TASC yn dweud bod ei hymddygiad yn rhagorol a’i bod wedi dangos proffesiynoldeb mawr wrth iddi ymgymryd â’i rôl.

“Mae hi’n glod i’n gwasanaeth, a gobeithio iddi gael diwrnod cofiadwy.”



Nodiadau y Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y Pennaeth Cyfathrebu Lois.Hough@wales.nhs.uk neu ffoniwch Lois ar 07866887559.