Neidio i'r prif gynnwy

Mae technoleg ystafell reoli newydd yn helpu'r Ymddiriedolaeth i ymateb yn well i alwadau 999

MAE Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi cyflwyno technoleg newydd i wella’r ffordd y mae’n ymateb i alwadau 999.

System teleffoni a chyfathrebu yw LifeX sy'n helpu anfonwyr ystafelloedd rheoli i gyfathrebu'n well â chriwiau rheng flaen a phrosesu gwybodaeth mewn ffordd symlach.

Yr Ymddiriedolaeth yw'r gwasanaeth ambiwlans mwyaf hyd yn hyn yn y DU i fynd yn fyw gyda'r system newydd, sydd wedi'i chynllunio i reoli adnoddau'n fwy effeithiol.

Dywedodd Jon Edwards, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau’r Ymddiriedolaeth ar gyfer Adnoddau a Chydlynu EMS: “Yn dilyn misoedd o gynllunio manwl, rydym bellach yn fyw gyda’n system gyfathrebu newydd, LifeX.

“Rwy’n falch o’r gwaith y mae ein staff a’n partneriaid wedi’i wneud i’r gweithredu hwn, sef y cam diweddaraf mewn rhaglen ehangach o waith i foderneiddio ein hystafelloedd rheoli.

“Trwy waith caled pawb dan sylw yr ydym wedi gweithredu newid mor sylweddol heb unrhyw effaith ar wasanaethau ledled Cymru.

“Mae gan staff bellach y system gyfathrebu fwyaf modern sy’n hanfodol wrth i ni gefnogi ein cymunedau ledled Cymru.”

Cyflwynwyd yr ateb newydd mewn cydweithrediad â phartneriaid Frequentis a Rhaglen Radio Ambiwlans dros gyfnod o dri diwrnod.

Dywedodd Duncan Bray, Cyfarwyddwr Rhaglen Radio Ambiwlans: “Rydym yn falch iawn o fod wedi cefnogi Cymru i gyflwyno'r dechnoleg hon ac yn awr yn edrych i gyflwyno'r datrysiad ar draws gwasanaethau ambiwlans eraill y DU.

“Dyma enghraifft wych o gydweithio a fydd o fudd i bawb dan sylw.”


Ychwanegodd Andy Madge, Rheolwr Gyfarwyddwr Frequentis UK: “Rydym yn falch o fod yn cefnogi Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gyda’i drawsnewidiad i ddatrysiad cyfathrebu amlgyfrwng Frequentis LifeX.

“Mae hyn yn galluogi staff yr ystafell reoli i gael mynediad at dechnoleg cyfathrebu flaengar a fydd o fudd sylweddol i’r gwaith achub bywyd y maent yn ei wneud, gan gynnwys rheoli a chyfeirio adnoddau i leoliadau sefyllfaoedd brys.

“Mae cydweithio ein timau wedi bod yn allweddol i gyflawni’r prosiect hwn yn llwyddiannus, gan wneud Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yr Ymddiriedolaeth ambiwlans fawr gyntaf yn y DU i fabwysiadu’r dechnoleg newydd hon.”


Nodiadau y Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y Pennaeth Cyfathrebu Lois.Hough@wales.nhs.uk neu ffoniwch Lois ar 07866887559.