Neidio i'r prif gynnwy

'Peidiwch â gwneud i ni godi'r darnau' - Byddwch yn ddiogel ar y ffyrdd y Nadolig hwn

MAE Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn annog pobl i yrru'n gyfrifol wrth i dymor y partïon Nadolig fynd rhagddo.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn atgoffa'r rhai sy'n mynd am noson allan i beidio â mynd y tu ôl i'r olwyn ar ôl yfed neu gymryd cyffuriau.

Dywedodd y parafeddyg Dermot O'Leary: “Rwy’n gweld â’m llygaid fy hun y difrod a achosir gan yrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, ac mae pob bywyd sy’n cael ei golli yn cael effaith aruthrol ar y rhai sy’n cael eu gadael ar ôl.

“Y gadair wag wrth y bwrdd, yr anrheg heb ei hagor o dan y goeden ac atgofion Nadoligau’r gorffennol i gyd yn ein hatgoffa’n ingol pan fyddwch wedi colli anwylyd.

“I’r rhai sydd wedi colli rhywun annwyl i yrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, gall fod yn arbennig o anodd - boed yn ddioddefwr diniwed mewn gwrthdrawiad neu’r sawl a ddewisodd yrru dan ddylanwad, roedd modd osgoi eu marwolaeth.

“Dylai’r cnoc hwnnw ar y drws fod y sŵn o’ch ffrindiau a’ch teulu ddod i ymweld, nid y gwasanaethau brys yn rhoi newyddion drwg.”

Mae'n debygol y bydd partïon swyddfa'n dychwelyd eleni a chyda hyn mewn golwg, mae'r gwasanaeth yn atgoffa pobl o'r mesurau ymarferol y gallant eu cymryd wrth fwynhau diod.

Dywedodd Dermot, rheolwr ardal dros dro yr Ymddiriedolaeth yng Nghonwy a Sir Ddinbych: “Yn dilyn ychydig o flynyddoedd anodd, bydd pobl yn edrych i fwynhau eu hunain y Nadolig hwn.

“Yn naturiol, dyma'r adeg o'r flwyddyn pan fyddwch chi eisiau codi gwydraid, ac mae hynny'n iawn, ond mae angen i chi ystyried eich gweithredoedd os ydych chi'n dewis yfed.

“Mae alcohol yn effeithio ar eich adweithiau, felly os ydych chi y tu ôl i'r olwyn ar ôl i chi gael cyffuriau neu alcohol, yna rydych chi'n mynd i gael eich effeithio, hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n iawn.

“Yfed heno? Peidiwch â gyrru yfory. Gyrru yfory? Yna peidiwch ag yfed heno.

“Cynlluniwch eich taith adref ymlaen llaw, naill ai trwy archebu tacsi ymlaen llaw neu gytuno ar yrrwr dynodedig.”

Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi gweld gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd ym mis Rhagfyr (467 yn Rhagfyr-18, 354 yn Rhagfyr-19, 259 yn Rhagfyr-20, 230 yn Rhagfyr-21 a 232 yn Rhagfyr -22) ond yn dweud na ddylai gyrwyr fod yn foddog.

Dywedodd Dermot: “Mae’n debyg y gellir priodoli’r hyn sy’n ymddangos yn ostyngiad mewn gwrthdrawiadau dros gyfnod yr ŵyl i lai o draffig ar y ffyrdd yn ystod pandemig Covid-19, felly ni ddylem orffwys ar ein rhwyfau.

“Yn y cyfnod cyn y Nadolig, rydym yn arbennig o bryderus am yfed a gyrru a gyrru dan ddylanwad cyffuriau, ond gadewch i ni beidio ag anghofio'r 'pedwar angheuol' arall - goryrru, peidio â gwisgo gwregys diogelwch a defnyddio'ch ffôn symudol wrth yrru.

“Gyrrwch yn ddiogel a pheidiwch â gwneud i ni godi'r darnau.”