MAE Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gwahodd y cyhoedd i fwrw pleidlais yn ei seremoni wobrwyo flynyddol.
Mae pleidleisio ar agor mewn pedwar categori yng Ngwobrau WAST 2023, gan gynnwys Tîm y Flwyddyn, Ysbrydoli Eraill, Gwrandäwr Gwych a Dewis y Bobl.
Dywedodd yr Athro Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Mae’r Ymddiriedolaeth yn llawn o bobl hynod, yn gwneud pethau rhyfeddol bob dydd.
“Heb eu hymroddiad, eu tosturi, a’u brwdfrydedd i helpu pobl Cymru, ni fyddai’r gwasanaeth yn gweithio, felly mae’n bwysig iawn ein bod yn dathlu ein staff a’n gwirfoddolwyr.
“Yn aml, nid yw ein pobl yn sylweddoli bod yr hyn y maent yn ei wneud yn arbennig, ond nid dim ond unrhyw swydd yw gweithio i’r gwasanaeth ambiwlans – mae’n swydd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, felly mae Gwobrau WAST yn gyfle i oedi a myfyrio ar eu cyflawniadau a dweud diolch yn fawr.
“Mae tîm WAST yn cynnwys dros 4,000 o bobl, ac rydyn ni'n meddwl bod pawb yn haeddu gwobr, ond dyma gyfle'r cyhoedd i ddweud wrthym pwy maen nhw'n meddwl ddylai gael cydnabyddiaeth arbennig ychwanegol.
“Os na wnewch chi ddim byd arall heddiw, edrychwch ar rai o’r enwebiadau syfrdanol rydyn ni wedi’u cael a helpwch ni i benderfynu ar enillydd.”
Darllenwch yr enwebiadau isod a bwrw pleidlais cyn y dyddiad cau sef 11.59pm ddydd Mawrth 15 Awst 2023.
Cyhoeddir yr enillwyr yn bersonol yng Ngwobrau WAST ym mis Hydref.
Defnyddiwch yr hashnod #WASTAwards23 i ddilyn y sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol.
Cliciwch yma i fwrw eich pleidlais.
Nodiadau y Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch Beth.Eales@wales.nhs.uk