MAE parafeddyg a gafodd ei alw’n ‘c**t’ a’i boeri arno gan glaf wedi ail-fyw ei drawma.
Roedd angen triniaeth ysbyty ar Geoff Williams, sydd wedi’i leoli yng Nghas-gwent, Sir Fynwy, wedi ymosodiad gan y dyn roedd e’n ceisio ei helpu.
Mae’r dyn 34 oed yn disgrifio teimlo’n ‘frwnt’ ar ôl y digwyddiad, a wnaeth ei adael yn methu â gweithio gweddill ei sifft.
Dywedodd Geoff: “Mae ymosodiad ar un ohonom yn ymosodiad ar bob un ohonom.
“Dw i’n dod i’r gwaith i helpu pobl, nid i gael fy ymosod arnaf.
“Roedd hyn yn teimlo’n bersonol - roedd cymaint o gasineb.”
Roedd Geoff a’i gydweithiwr Matt Baker, technegydd meddygol brys, yn ymateb i argyfwng meddygol yng Nghwmbrân ym mis Awst.
Dywedodd Geoff: “Pan gyrhaeddon ni yno, roedd y dyn mewn cyflwr cynhyrfus, yn feddw iawn ac yn ymddwyn yn eratig.
“Fe wnaethon ni ei gael ar gefn yr ambiwlans, ac fe wnaeth yr heddlu ei arestio am fod y feddw ac yn afreolus yn y broses.
“Fe ges i’r dyn ar y stretsier ond roedd e’n mynd yn ymosodol ac yn anelu ergyd.
“Y funud nesaf, dywedodd ‘Ti’n c**t’ a phoeri yn fy wyneb.
“Yr unig ffordd allai ddisgrifio sut o’n i’n teimlo yw’n frwnt - yn frwnt iawn.”
Aeth Geoff and Matt â’r dyn i’r ysbyty, lle cafodd Geoff ei lygaid wedi fflysio a rownd o brofion gwaed brys.
Bydd ail-rownd o brofion gwaed y mis hwn yn pennu os yw Geoff wedi datblygu haint.
Dywedodd e: “Gydag unrhyw ymosodiad yn ymwneud â hylifau corfforol, mae’r risg yn enfawr.
“Mae rhaid i chi fod yn ofalus am bethau fel hepatitis, twbercwlosis a Covid-19.
“Roedd cael fy llygaid wedi fflysio yn golygu nad o’n i’n gallu gyrru, a oedd yn ei dro yn golygu nad o’n i’n gallu gorffen fy sifft, a phan fydd ambiwlans yn cael ei dynnu oddi ar y ffordd, gall hynny gael effaith enfawr ar ddarparu gwasanaethau, yn enwedig mewn cymuned fach.
“Mae fy ngwraig Hollie yn barafeddyg yng Nghasnewydd, ac fe gafodd hi’r alwad mae’r ddau ohonom yn ofni, sef i ddweud bod y llall wedi dioddef ymosodiad.
“Roedd hi’n gyfnod anodd.”
Dechreuodd Geoff, sy’n byw yn Swydd Gaerloyw, ei yrfa ambiwlans fel ymatebwr cyntaf cymunedol, gan gymhwyso wedyn fel technegydd meddygol brys a pharafeddyg.
Yn ei yrfa wyth mlynedd, hwn oedd ei drydydd ymosodiad.
“Mae’n bendant yn eich gwneud chi’n fwy ymwybodol o bethau,” meddai.
“Bydd y profiad hwn wastad yng nghefn fy meddwl nawr pan dwi’n trin cleifion eraill.”
Yn Llys Ynadon Casnewydd ar 13 Hydref 2023, plediodd Curtis Card yn euog i ymosod drwy guro gweithiwr brys, bod yn feddw ac yn afreolus mewn man cyhoeddus a bod â chyffur a reolir Dosbarth B.
Gorchmynnwyd iddo dalu iawndal o £100 i Geoff a chafodd orchymyn cymunedol hefyd, gan gynnwys cyrffyw tri mis a gofyniad adsefydlu 10 diwrnod.
Daeth canllawiau newydd i helpu llysoedd i benderfynu sut i ddedfrydu’r rhai sy’n ymosod ar weithiwr brys i rym mis Gorffennaf 2021.
Mae canllawiau’r Cyngor Dedfrydu yn helpu llysoedd yng Nghymru a Lloegr i wneud asesiad cytbwys o ddifrifoldeb y drosedd a gosod dedfryd gymesur.
Dyma’r tro cyntaf i farnwyr ac ynadon gael canllawiau penodol ar gyfer dedfrydu ymosodiadau ar weithwyr brys, sy’n adlewyrchu deddfwriaeth a gynyddodd y ddedfryd uchaf ar gyfer ymosodiad cyffredin pan fo’r dioddefwr yn weithiwr brys.
Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Roedd y digwyddiad hwn nid yn unig yn effeithio ar Geoff, ond fe dalodd y gymuned gyfan y pris pan gafodd yr ambiwlans hwnnw ei dynnu oddi ar y ffordd nid oedd ar gael bellach i ymateb, ac mae hynny – mewn gwirionedd – yn annerbyniol.
“Byddem yn annog barnwyr ac ynadon i ddefnyddio maint llawn eu pwerau dedfrydu wrth ddedfrydu ymosodiadau ar droseddau gweithwyr brys, gan sicrhau bod dedfrydau yn gymesur ond hefyd yn adlewyrchu’r loes a’r boen a achosir gan droseddwyr.
“Nid yw cael eich ymosod arno yn rhan o’r swydd - a ddylai byth fod.’
“Mae ein criwiau ambiwlans yno i helpu pobl, ond dydyn nhw ddim yn gallu brwydro dros fywyd rhywun arall os ydyn nhw’n brwydro dros eu bywyd eu hunain.”