Aelod o staff Gwasanaeth AMBIWLANS CYMRU yn derbyn gwobr genedlaethol fawreddog
Mae Tom Catalano, Uwch Barafeddyg yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi derbyn gwobr genedlaethol fawreddog i gydnabod eu cyfraniad eithriadol a’u hymrwymiad i’r gwasanaeth ambiwlans a’u heffaith gadarnhaol ar gleifion lleol.
Cyflwynwyd y wobr yn y Fforwm Arwain Ambiwlans (ALF), digwyddiad sector ambiwlans cenedlaethol a drefnwyd gan Gymdeithas y Prif Weithredwyr Ambiwlans (AACE), a gynhaliwyd yn y Celtic Manor, De Cymru rhwng 02-03 Hydref 2023.
Dywedodd Mike Jenkins, Arweinydd Clinigol Rhanbarthol – Parafeddyg Ymgynghorol yn y De Ddwyrain: “Ers ymuno ag WAST fel un o’i Uwch Barafeddygon cyntaf, mae Tom wedi gosod esiampl uchel iawn mewn ymarfer clinigol, dogfennaeth a chyfathrebu, gan lunio rôl yr Uwch Barafeddyg; rôl a gyflwynwyd i wella arweinyddiaeth glinigol a chefnogi arfer clinigol eithriadol.
“Mae’n dod ag aeddfedrwydd gwybodus i’r rôl, ac ymarfer clinigol, gan hyrwyddo cyfleoedd i eraill ddatblygu a dysgu trwy eu hymwneud ag ef.”
Dywedodd Anna Parry, Rheolwr Gyfarwyddwr AACE: “Mae gwobrau gwasanaeth rhagorol AACE yn rhoi’r cyfle i ymddiriedolaethau ambiwlans dalu teyrnged i un aelod o staff o bob un o’n dau ar bymtheg aelod o wasanaethau sydd wedi dangos ymrwymiad eithriadol i’w gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
“P’un a ydyn nhw’n glinigwyr rheng flaen, yn weithredwyr canolfannau rheoli, yn wirfoddolwyr neu’n gweithio mewn timau cymorth, mae derbynwyr eleni wedi gwneud eu hunain, eu cleifion a’u cydweithwyr yn falch iawn, gyda phob person yn hynod haeddiannol o’r gydnabyddiaeth hon gan eu cyfoedion.”
Wedi’i sefydlu yn 2006 ac yn cael ei gynnal gan Gymdeithas Prif Weithredwyr Ambiwlans (AACE), y Fforwm Arwain Ambiwlans (ALF) yw’r unig ddigwyddiad blynyddol sydd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer uwch arweinwyr ar draws sector ambiwlans y DU. Mae’r gynhadledd flynyddol uchel ei pharch a’r digwyddiad arddangos hwn yn dod ag aelodau bwrdd, rheolwyr, arweinwyr system y GIG, gwleidyddion, academyddion, a phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd â chyflenwyr allweddol sydd â diddordeb uniongyrchol mewn gwella sector ambiwlansys y DU. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://aace.org.uk/alf-event/2023-welcome/
Nodiadau i olygyddion