Neidio i'r prif gynnwy

'Y swydd orau yn y byd, yn yr ardal orau' – awydd ymuno â Ben fel Technegydd Meddygol Brys ym Mhowys?

Mae technegydd ambiwlans newydd gymhwyso ym Mhowys yn gwahodd eraill i ddilyn ei olion traed.

Ymunodd Ben Astley â Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fel Cynorthwyydd Gofal Brys yn ystod pandemig Covid-19 ac ers hynny mae wedi cymhwyso fel Technegydd Meddygol Brys (EMT), yn y Drenewydd.

Mae’r brodor 31 oed o Bowys yn gweithio gyda pharafeddygon a thechnegwyr eraill i ddarparu gofal brys cyn ysbyty i gleifion sydd wedi ffonio 999.

Mae'r tad i ddau o blant bellach yn gwahodd eraill i ddilyn yr un yrfa.

Dywedodd Ben: “Ymunais â Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gan fy mod yn meddwl ei fod yn wasanaeth gwerth chweil.

“Rwyf wedi bod i lawer o wahanol argyfyngau ar draws gwahanol dirweddau, o ddigwyddiadau amaethyddol, damweiniau i gerddwyr mynydd i ddamweiniau chwaraeon modur.

“Dydw i erioed wedi meddwl gadael Powys gan fy mod yn caru’r ardal, mae cefn gwlad yn brydferth, ac mae ganddi drefi mor amrywiol.

“Trwy weithio fel EMT mewn ardal wledig, rwy’n gallu trin amrywiaeth o wahanol bobl, gan gynnwys nifer helaeth o anafiadau.

“Er bod yr ysbytai ymhellach i ffwrdd, mewn gwirionedd mae'n fy helpu i wella fy sgiliau clinigol ac mae'r golygfeydd yn wych.

“Dydw i byth yn cael shifft ddiflas.”



Dechreuodd Ben ei yrfa yn y gwasanaethau brys gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wyth mlynedd yn ôl, ac mae’n dal i weithio yno nawr fel Rheolwr Criw.

Dywedodd: “Gyda fy rôl EMT, rwy’n dal i allu gweithio yn y Trallwng gyda’r gwasanaeth tân, gofalu am fy nau blentyn ac mewn gwirionedd rwyf wedi ymuno â thîm rygbi Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

“Er fy mod newydd gymhwyso fel EMT, mae cymaint o gyfleoedd dilyniant o fewn y gwasanaeth.

“Dydw i ddim wedi diystyru dod yn barafeddyg, ond ar hyn o bryd rydw i wrth fy modd yn bod yn EMT a phopeth sy'n dod yn ei sgil.

“Yn ddiweddar, cefais i a chwpl o aelodau staff o orsaf y Drenewydd y pleser o gwrdd â chlaf ataliad y galon 16 oed y gwnaethom ei achub, ac mae eiliadau fel hyn pan fyddaf yn caru fy swydd hyd yn oed yn fwy.

“Mae gen i’r swydd orau yn y byd, yn yr ardal orau a fyddwn i ddim yn ei newid.”

Os yw Ben wedi eich ysbrydoli i ddechrau ar eich taith EMT, mae Ambiwlans Cymru yn recriwtio EMTs llawn amser, parhaol dan Hyfforddiant ym Mhowys.

Rhoddir hyfforddiant llawn, ac mae'r cwrs hyfforddi 19 wythnos yn dechrau fis nesaf.

Gall ymgeiswyr llwyddiannus weithio o orsafoedd yn Llanfyllin, Llanidloes, Machynllenth, Y Drenewydd, Y Trallwng, Crucywel, Trefyclo a Llandrindod.

Gwnewch gais yma: Hysbyseb Swydd (jobs.nhs.uk)

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mercher 15 Chwefror 2023.

Nodiadau y Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch Pennaeth Cyfathrebu Lois.Hough@wales.nhs.uk neu ffoniwch Lois ar 07866 887559.