Neidio i'r prif gynnwy

Ailgylchwch ddillad ail-law a chefnogwch ein teulu gwasanaeth ambiwlans

15.07.24

MAE Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi partneru â’r Elusen Staff Ambiwlans (TASC) i lansio cynllun banc tecstilau.


Gall y cyhoedd bellach ailgylchu hen ddillad, esgidiau a thecstilau mewn un o dri lleoliad ledled Cymru, gan gynnwys yn Llanelwy, y Drenewydd a Dinbych-y-pysgod.

Mae dillad gwisgadwy yn cael eu hail-werthu, tra bod tecstilau na ellir eu gwisgo yn cael eu hail-ddefnyddio wrth gynhyrchu llawer o eitemau eraill, fel clustogwaith ceir.

Bydd incwm a gynhyrchir o'r cynllun yn cael ei rannu rhwng TASC
ac elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ei hun.

Dywedodd Nicci Stephens, Rheolwr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yr Ymddiriedolaeth: “Mae gwneud ein rhan dros yr amgylchedd yn hynod o bwysig i ni fel gwasanaeth ambiwlans, a dyna pam y gwnaethom neidio ar y cyfle i gydweithio â TASC.

“Nid yn unig rydyn ni wedi creu mecanwaith i bobl ailgylchu eu hoff eitemau, ond mae’n gyfle i gefnogi ein teulu ambiwlans ar yr un pryd.”

Ychwanegodd Chris Turley, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol: “Mae partneriaeth â TASC ar y fenter hon yn un o lawer o ffyrdd rydym yn ceisio bod yn fwy cynaliadwy fel rhan o’n cynllun datgarboneiddio ehangach.

“Mae’r ffaith ei fod yn codi arian at achos da hyd yn oed yn well, a byddwn yn annog staff, gwirfoddolwyr a’r gymuned ehangach i wneud defnydd da o’r banciau dillad hyn.”

Mae elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gwbl ddibynnol ar roddion ac yn codi arian i ariannu mentrau sy’n hybu iechyd, lles a diogelwch ei phobl, cleifion a chymunedau.

Yn y cyfamser, mae TASC yn darparu ystod o wasanaethau i gefnogi iechyd meddwl, adsefydlu corfforol a lles ariannol staff gwasanaeth ambiwlans y DU a staff sydd wedi ymddeol, yn ogystal â pharafeddygon dan hyfforddiant a gwirfoddolwyr gwasanaeth ambiwlans.

Dywedodd Karl Demian, Prif Weithredwr TASC: “Rydym yn falch o ymuno â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar y fenter hon a fydd yn lleihau tirlenwi, yn cefnogi cynaliadwyedd ac yn codi arian hanfodol i gefnogi ein teulu ambiwlans anhygoel yn eu hamser o angen.”

Dewch o hyd i'ch banc dillad agosaf yn -

  • Gorsaf Ambiwlans y Drenewydd, Stad Ddiwydiannol Mochdre, Y Drenewydd, Powys, SY16 4LD.
  • Gorsaf Ambiwlans Dinbych-y-pysgod, The Salterns, Dinbych-y-pysgod, SA70 7NJ.
  • Ty Elwy, Uned 7, Ffordd Richard Davies, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0LJ.