Neidio i'r prif gynnwy

Arhoswch yn ddiogel a mwynhewch Noson Tân Gwyllt ddisglair

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn annog pobl i gadw'n ddiogel y Noson Tân Gwyllt hon.

Mae Noson Tân Gwyllt yn draddodiadol yn gyfnod prysur i’r gwasanaeth, gyda galwadau tân gwyllt a choelcerth ychwanegol yn ychwanegu at nifer y digwyddiadau y mae criwiau a thrinwyr galwadau yn delio â nhw.

Y llynedd, derbyniodd yr Ymddiriedolaeth 3,433 o alwadau i 999 dros gyfnod Noson Tân Gwyllt ac 8,159 o alwadau difrys pellach i GIG 111 Cymru.

Gall llosgiadau ac anadlu mwg o dân gwyllt a choelcerthi fod yn ddifrifol, yn enwedig i'r rhai sydd â chyflyrau anadlol fel asthma.

Dywedodd Judith Bryce, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau’r Ymddiriedolaeth (Gweithrediadau a Chymorth Cenedlaethol): “Ar noson o bwysau mawr i’r holl wasanaethau brys ledled Cymru, rydym yn annog y cyhoedd i helpu i ddiogelu eu hunain, eu teuluoedd, cymdogion a ffrindiau drwy aros yn ddiogel a pheidio â chymryd risgiau.”

Gellir osgoi anafiadau llosgiadau, yn arbennig, trwy ddilyn y cod Tân Gwyllt.

Os byddwch yn dioddef llosg, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud y canlynol:

  • Cael y person i ffwrdd o'r ffynhonnell wres.
  • Oeri’r llosg gyda dŵr llugoer neu oer am 20 munud.
  • Tynnu i ffwrdd unrhyw ddillad neu emwaith sydd ger y man llosg.
  • Gwneud yn siŵr bod y person yn cadw'n gynnes.
  • Gorchuddio’r llosg gan ddefnyddio cling ffilm neu fag plastig glân.
  • Defnyddio poenladdwyr fel paracetamol neu ibuprofen.
  • Mynd i dudalen Llosgiadau a sgaldiadau ar wefan GIG 111 Cymru.
  • Defnyddio’r adran achosion brys ar gyfer trawma, anafiadau neu salwch difrifol.
  • Dim ond ar gyfer argyfyngau difrifol neu rai sy'n bygwth bywyd y dylech ffonio 999.

    Dyma rai nodiadau atgoffa diogelwch hanfodol ar gyfer Noson Tân Gwyllt ddiogel a phleserus:

Dewiswch arddangosfeydd proffesiynol

Dewiswch fynychu arddangosfeydd tân gwyllt a drefnir yn broffesiynol, gan eu bod yn opsiwn mwy diogel i bawb.

Cynghorion rheoli asthma

Cariwch eich anadlydd i fynd i'r afael yn gyflym ag unrhyw symptomau asthma a achosir gan aer myglyd.

Sicrhewch fod y bobl o’ch cwmpas yn ymwybodol o beth i'w wneud a phryd i ofyn am gymorth os bydd eich symptomau asthma yn gwaethygu.

Cadwch bellter diogel oddi wrth y goelcerth a byddwch yn ymwybodol o gyfeiriad y gwynt er mwyn osgoi effeithiau anadlu mwg gormodol.

Defnyddiwch sgarff i orchuddio'ch ceg a'ch trwyn mewn tywydd oer, gan helpu i gynhesu'r aer cyn ei anadlu i mewn.

Ystyriwch aros y tu fewn os yw tân gwyllt wedi achosi eich asthma yn flaenorol, yn enwedig os yw ansawdd yr aer yn wael.

I gael cyngor ychwanegol ar reoli asthma a chadw’n ddiogel yn ystod arddangosfeydd tân gwyllt, ewch i’r dudalen Asthma ar wefan GIG 111 Cymru.

Parchwch weithwyr brys

Dangoswch barch ac ystyriaeth i weithwyr brys ar Noson Tân Gwyllt, gan gydnabod eu hymroddiad i sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Dywedodd Judith: “Rydym yn gwybod bod galwadau i’r gwasanaethau brys yn cynyddu o gwmpas Noson Tân Gwyllt, gydag adroddiadau am anafiadau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a thanau heb oruchwyliaeth.

“Efallai nad oes gan ein criwiau unrhyw ddewis ond gadael lleoliad os yw eu diogelwch personol yn cael ei beryglu, ac nid yw hyn o gymorth i unrhyw un, yn lleiaf oll y claf.

“Gall gweithred hollt-eiliad o drais gael effaith ddinistriol a hirdymor ar ein staff, yn gorfforol ac yn emosiynol, felly cofiwch weithio gyda ni, nid yn ein herbyn.

“Gadewch i ni wneud y Noson Tân Gwyllt hon yn achlysur cofiadwy a diogel drwy roi blaenoriaeth i’n llesiant ni a llesiant pobl eraill.

“Mwynhewch y dathliadau yn gyfrifol a mwynhewch Noson Tân Gwyllt.”