Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu cydweithwyr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yng ngogledd Cymru am wasanaeth hir

BU Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn dathlu cydweithwyr sydd wedi gwasanaethu ers tro mewn seremoni wobrwyo yn y gogledd ddoe.

Cyflwynwyd medalau i gydweithwyr gyda 20 a 30 mlynedd o wasanaeth GIG yn y gwesty Quay Hotel yn Neganwy mewn digwyddiad i gydnabod hyd eu gwasanaeth.

Cyflwynwyd Medal Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da hefyd i gydweithwyr sydd ag 20 mlynedd yn y Gwasanaeth Meddygol Brys gan Arglwydd Raglaw Clwyd Mr Henry Fetherstonhaugh OBE DL.

Ymhlith y derbynwyr roedd Lisa Pope, rheolwr gweithrediadau ar ddyletswydd yn Ninbych, a gafodd ei chydnabod am ddau ddegawd o wasanaeth.

Ymunodd Lisa â'r gwasanaeth ambiwlans yn 23 oed yn 2003 fel technegydd meddygol brys dan hyfforddiant.

Cymhwysodd fel parafeddyg yn 2006 cyn ei phenodiad yn rheolwr gweithrediadau ar ddyletswydd yn 2020.

Meddai: “Mae gen i atgofion gwych o fy hyfforddiant, a roddodd gyfle i mi ddatblygu fy sgiliau ond cwrdd â phobl wych o bob rhan o Gymru ar hyd y ffordd.

“Dw i’n mwynhau fy rôl fel rheolwr gweithrediadau ac er bod rhai dyddiau sy’n fwy heriol nag eraill, dw i bob amser yn ymdrechu i gefnogi staff a chydweithwyr lle bynnag y galla i.”

Mae'r fam i ddau o blant hefyd yn gefnogwr brwd o elusennau canser.

Heb ei hatal gan ganslo Marathon Llundain yn 2020 oherwydd Covid-19, mapiodd Lisa gwrs 26.2 milltir o hyd yng ngogledd Cymru a rhedeg y pellter cyfan, gan gwblhau ei marathon ‘rhith’ Llundain ei hun er budd Cancer Research UK.
 

Ei her nesaf fydd marathon eithafol 50km ar Benrhyn Llŷn fis Ebrill nesaf ar gyfer elusennau canser menywod.
 

Dywedodd Lisa, sydd ag Oli, 16 oed ac Elan 11 oed gyda’i phartner 27 oed, Mike: “Ers ymuno â’r gwasanaeth, mae’r galw wedi cynyddu’n sylweddol.

“Fel gwasanaeth rydym wedi symud gyda’r oes i ddatblygu a gwella set sgiliau ein staff rheng flaen er mwyn darparu gofal o’r safon uchaf i gleifion yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Dwi’n mwynhau’r rhyngweithio â chleifion a’u teuluoedd a gallu eu helpu a’u cefnogi ar adegau anodd, sy’n rhoi’r cyfle i mi ‘gadw mewn cysylltiad’ â’r hyn y mae criwiau’n ei wynebu bob dydd.

“Dwi’n falch o fod yn rhan o dîm gwych – ymlaen i’r 20 mlynedd nesaf!”

Mae bron i 300 o gydweithwyr ar draws yr Ymddiriedolaeth wedi cael gwahoddiad i dderbyn Gwobr Gwasanaeth Hir eleni.

Roedd cydweithwyr yn y digwyddiad ddoe yn cynnwys parafeddygon, technegwyr meddygol brys, trinwyr galwadau, dyranwyr, rheolwyr gweithrediadau a chydweithwyr corfforaethol o bob rhan o ogledd Cymru.

Dywedodd y Prif Weithredwr Jason Killens: “Mae gweithio i’r gwasanaeth ambiwlans yn cymryd math arbennig o berson.


“Mae’n swydd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol gan ein bod yn tueddu i weld pobl dim ond pan fyddant yn ddifrifol wael neu’n dioddef argyfwng meddygol.

“Ein staff yw’r bobl y maen nhw’n troi atynt yn yr adegau hynny o angen, ac mae’n cymryd pobl ryfeddol i barhau i wneud yr hyn maen nhw’n yn ei wneud, o ddydd i ddydd.

“Mae yna gyfoeth o brofiad ymhlith ein pobl ac roedd y Gwobrau Gwasanaeth Hir a gyflwynwyd gennym i’r bobl yn yr ystafell ddoe yn gyfystyr â gwasanaeth cyfunol o bron i 300 mlynedd.”

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Anweithredol a’r Is-Gadeirydd Ceri Jackson: “Mae’r bobl wych hyn yn gweithio’n galed iawn i wasanaethu pobl Cymru a nhw sy’n gwneud Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yr hyn ydyw heddiw.

“Mae pob un o’r bobl yma yn chwarae rhan hanfodol mewn achub bywydau a dwi’n gwybod fy mod i’n siarad ar ran y sefydliad cyfan pan dwi’n dweud ein bod yn hynod falch o’u cyflawniadau.

“Llongyfarchiadau i bob un o’n derbynwyr.”

Nodiadau gan y golygydd

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at y Swyddog Cyfathrebu Jeff.Prescott@wales.nhs.uk neu ffoniwch Jeff ar 07811 748363.