Neidio i'r prif gynnwy

Ceri Jackson wedi'i chadarnhau fel Is-gadeirydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

MAE Ceri Jackson wedi’i phenodi’n Is-gadeirydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn dilyn proses ddethol gystadleuol.

Mae Ceri wedi gwasanaethu fel cyfarwyddwr anweithredol ers 2021 ac fel Is-gadeirydd Dros Dro ers 2023.

Mae gyrfa 30 mlynedd Ceri yn y sector elusennol wedi mynd â hi ledled Cymru a’r DU ac mae’n cynnwys rolau fel Pennaeth Cymunedol y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB), Cyfarwyddwr RNIB Cymru a Chyfarwyddwr Strategaeth a Thrawsnewid Dros Dro yn Nhŷ Hafan.

Mae hi wedi bod yn aelod o sawl Bwrdd yng Nghymru er mwyn helpu i adolygu polisi ac ymarfer ar draws ystod o feysydd gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol a thai.

Yn ogystal, mae Ceri wedi bod yn ymddiriedolwr y Gymdeithas Strôc ers 2020 a chyn hynny roedd yn ymddiriedolwr a chadeirydd ar gyfer Sight Life, ac yn Gadeirydd Cynghrair Henoed Cymru a Grŵp Cynghori Strategaeth Golwg Cymru.

Dywedodd Ceri: “Rydw i wrth fy modd i gael fy mhenodi i rôl fel Is-gadeirydd.

“Rydw i’n gobeithio y bydd fy mhrofiad mewn sefydliadau iechyd, gofal cymdeithasol, polisi ac elusennol dros y 30 mlynedd diwethaf o werth i’r Bwrdd ac i’r gwasanaeth.

Dywedodd y Cadeirydd Colin Dennis: “Hoffwn longyfarch Ceri ar ei phenodiad haeddiannol.

“Mae’n amser pwysig i’r gwasanaeth ambiwlans a’r GIG ehangach yng Nghymru wrth i ni geisio darparu gwasanaeth iechyd sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

“Rwy’n gwybod y bydd gwybodaeth, angerdd ac egni personol Ceri ar gyfer y rôl yn help mawr i yrru’r gwaith hwnnw yn ei flaen.


Nodiadau gan y golygydd

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at y Swyddog Cyfathrebu Jeff.Prescott@wales.nhs.uk neu ffoniwch Jeff ar 07811 748363.