Neidio i'r prif gynnwy

Canmoliaeth y Prif Weithredwr am y Samariad Trugarog

MAE LLANC dewr a gynorthwyodd mewn dau argyfwng meddygol mewn un diwrnod wedi cael ei ganmol am ei weithredoedd.

Roedd Owen Mansel, 19 oed o Sir Gaerfyrddin, yn cludo aelod o'r cyhoedd oedd wedi cwympo i'r ysbyty pan ddaeth ar draws gwrthdrawiad traffig y ffordd ym Mhorth Tywyn.

Am ei weithredoedd difeddwl i helpu, ers hynny mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyflwyno gwobr iddo.

Dywedodd Owen, prentis mecanic: “Roedd e’n reddf bur a wnaeth imi stopio am y claf cyntaf.

“O’n i’n gyrru yn ôl o dŷ ffrind pan welais i’r person ‘ma yn gorwedd yn y ffordd a meddyliais ar unwaith nad yw'r person hwn yn weladwy ac mae angen cymorth arno.

“Do’n nhw ddim yn symud, ac o’n i’n gallu gweld gwaed yn dod o’u pen, felly ffoniais 999.

“Ar ôl i’r triniwr galwadau awgrymu y byddai’n cymryd amser i’r ambiwlans gyrraedd, fe wnes i eu rhoi yn y car a dechrau eu gyrru tuag at yr ysbyty agosaf, sef Ysbyty Tywysog Philip.”

Tua 100 llath i lawr y ffordd, defnyddiodd Owen ei hyfforddiant cymorth cyntaf o rôl flaenorol fel achubwr bywyd eto.

Dywedodd: “Wrth i mi yrru i’r ysbyty, ces i fy fflagio i lawr gan aelod arall o’r cyhoedd.

“Es i allan ar unwaith eto i ffeindio person arall a oedd wedi’i anafu yn y ffordd.

“Ffonais i 999 am yr eildro'r diwrnod hwnnw a gwirio’r claf drosodd.

“Doedd dim codiad a chwymp yn y frest, felly dechreuais i gywasgu’r frest wrth weiddi atebion i’r triniwr galwadau ac anfon y gwyliwr oedd yn fy fflagio i lawr i nôl y diffibriliwr agosaf.

“Doedd perfformio CPR mewn amser real ddim mor wahanol i hyfforddiant.

“Roedd yna newid yn fy mhen, a gyda’r newid yn fy mhen a wnaeth i mi ddiystyru unrhyw bethau neu feddyliau hyll wrth geisio achub bywyd person.”

Ymunodd y Parafeddyg Ross Griffin, sydd â mwy na 30 mlynedd o wasanaeth ambiwlans, ag Owen.

Dywedodd Ross: “Oherwydd natur y digwyddiad a’i fod yn digwydd yn y nos, fel y gallwch ddychmygu, roedd yn olygfa anhrefnus iawn ac yn anodd ei rheoli, o safbwynt clinigol ac o safbwynt y gwylwyr.

“Ymhlith yr holl gynnwrf hwn roedd dyn ifanc yn cywasgu'r frest yn effeithiol iawn gyda chyfarwyddiadau trwy ffôn symudol gan berson sy'n trin galwadau.

“Gan fy mod ar fy mhen fy hun, roeddwn i angen cymorth pellach i reoli’r claf, ac arhosodd y dyn ifanc – a ddarganfyddais yn ddiweddarach oedd Owen – gyda fi a gwneud popeth y gofynnais iddo nes i swyddogion yr heddlu gyrraedd i gymryd yr awenau.

“Ar ôl hynny, trïais i ddod o hyd i Owen i ddiolch iddo am ei ymdrechion, ond roedd wedi gadael y lleoliad ac wedi mynd adref.”

Y diwrnod wedyn cysylltodd Chloe Lancey, Parafeddyg o Orseinon, a oedd yn digwydd bod yn gyfnither i Owen, â Ross.

Dywedodd Ross: “Cysylltodd Chloe â fi'r bore canlynol i ddweud wrtha i am weithredoedd Owen ac esboniodd ei fod mewn gwirionedd wedi bod i ddau ddigwyddiad o fewn yr un diwrnod.

“Rhoddais i Owen ymlaen am gydnabyddiaeth achos i mi, dangosodd y dyn ifanc hwn wydnwch anhygoel ac ysbryd cymunedol rhyfeddol a dwi’n teimlo na ddylai hwn fynd heb ei gydnabod.”

Yr wythnos diwethaf, cyflwynwyd Canmoliaeth y Prif Weithredwr i Owen gan Brif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Jason Killens KAM ac Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, Melanie James YH.

Dywedodd Jason: “Dangosodd Owen ymdrech ryfeddol.

“Mae nid yn unig stopio, ond cynorthwyo ac aros tra bod rhywun mewn angen dirfawr, yn ganmoladwy, ac mae gwneud hyn ddwywaith mewn un diwrnod yn wirioneddol ysbrydoledig.

“Fe wnaeth gweithredoedd Owen helpu i reoli ac asesu’r sefyllfa cyn i ragor o gymorth cyrraedd a sicrhau bod y driniaeth orau bosibl ar gael.

“Rwy’n estyn fy niolchgarwch i Owen yn yr hyn a oedd yn amlwg yn swydd anodd a thrallodus iawn.”

Nodiadau gan y golygydd

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at yr Arbenigwr CyfathrebuBeth.Eales@wales.nhs.uk