18.12.2024
Bydd staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru sy’n gweithio ar Ddydd Nadolig yn cael cinio Nadoligaidd traddodiadol eto eleni diolch i arian o’r Cronfeydd Elusennol a llu o fusnesau lletygarwch.
Mae sawl tafarn, gwesty a bwyty o bob rhan o Gymru wedi cytuno’n hael unwaith eto i baratoi prydau Nadolig blasus ar gyfer dros 700 o staff fel arwydd o ewyllys da i’r rhai sy’n gweithio ar Ragfyr 25.
Fel yn ystod y blynyddoedd blaenorol, mae Elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi ariannu’r ciniawau Nadolig hyn, diolch i roddion gan y cyhoedd.
Dywedodd David Hopkins, Pennaeth Elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn 2024.
“Diolch i’ch haelioni, a chefnogaeth garedig busnesau lletygarwch ledled Cymru, gallwn roi arwydd bach o werthfawrogiad i’n staff sy’n gweithio ar Ddydd Nadolig.
“Dyma un o’r ffyrdd y mae’r elusen yn cefnogi staff WAST, gwirfoddolwyr a chleifion, trwy gydol y flwyddyn.”
Bydd cydweithwyr o fwy nag 80 o orsafoedd ambiwlans, canolfannau cyswllt clinigol ac amgylcheddau eraill sy'n gweithio sifft dydd yn cael mwynhau cinio, y mae rhai ohonynt wedi'u darparu'n rhad ac am ddim.
Mae’n cynnwys staff yn y gwasanaeth meddygol brys, gwasanaeth cludiant cleifion difrys, depos ymbaratoi, uned cyflawni gweithredol a chanolfannau cyswllt clinigol, gan gynnwys yn GIG 111 Cymru ac ar ddesg gymorth glinigol yr Ymddiriedolaeth.
Dywedodd Judith Bryce, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau: “Rydym wedi bod yn trefnu ciniawau Nadolig ers rhai blynyddoedd bellach ac maen nhw bob amser yn cael eu derbyn yn ddiolchgar.
“Fel gwasanaeth ambiwlans, rydym yn gweithredu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, sy’n golygu na fydd pawb yn gallu mwynhau cinio Nadolig gartref gyda’u hanwyliaid.
“Mae hwn yn arwydd bach i ddiolch i’n pobl ar Ddydd Nadolig, ac rwy’n gobeithio ei fod yn dangos ar ran y sefydliad a’n cleifion pa mor ddiolchgar ydym i gydweithwyr am y gwasanaeth maen nhw’n ei ddarparu.”
Bydd yr Ymddiriedolaeth hefyd yn anfon talebau Tesco i bob amgylchedd gweithredol unwaith eto, gan gynnwys canolfannau cyswllt i alluogi cydweithwyr i brynu danteithion Nadoligaidd.
I ddarllen mwy am Elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru neu i gyfrannu, ewch i: Elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.