Neidio i'r prif gynnwy

Cydnabod cydweithwyr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yng ngorllewin Cymru am wasanaeth hir

21.06.24

DATHLODD Wasanaeth Ambiwlans Cymru y staff sydd wedi gwasanaethu ers tro mewn seremoni wobrwyo yng ngorllewin Cymru ddoe (dydd Iau 20 Mehefin 2024).


Cyflwynwyd medalau i gydweithwyr ag 20, 30 a 40 mlynedd o wasanaeth yng ngwesty The Cliff Hotel and Spa yn Aberteifi mewn digwyddiad i gydnabod hyd eu gwasanaeth.

Cyflwynwyd Medal Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da hefyd i gydweithwyr sydd ag 20 mlynedd yn y Gwasanaeth Meddygol Brys gan Ddirprwy Raglaw Dyfed, Meurig Raymond CBE.

Ymhlith y cydweithwyr yn y digwyddiad ddoe roedd parafeddygon, technegwyr meddygol brys, trinwyr galwadau, dyranwyr a chydweithwyr corfforaethol o bob rhan o ganolbarth a gorllewin Cymru.

Dywedodd y Prif Weithredwr Jason Killens: “Yn aml, pan fydd pobl ar eu hisaf, yn ofnus, wedi’u hanafu, yn agored i niwed, yn sâl, ni yw’r bobl maen nhw’n troi aton ni, felly nid dim ond unrhyw swydd yw gweithio i’r gwasanaeth ambiwlans – mae’n swydd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Mae’n syfrdanol meddwl bod yr holl Wobrau Gwasanaeth Hir a gyflwynwyd gennym ddoe yn cyfateb i bron i 500 mlynedd o wasanaeth.

“Hoffwn estyn llongyfarchiadau mawr i bob un o’n derbynwyr.

“Rwy’n hynod falch o’u holl gyflawniadau.”

Mae bron i 300 o gydweithwyr ar draws yr Ymddiriedolaeth yn derbyn Gwobr Gwasanaeth Hir eleni.

Ychwanegodd y Cadeirydd Colin Dennis: “Pan gafodd y Gwobrau Gwasanaeth Hir eu creu gyntaf, roedd yn wir gwireddu uchelgais hirsefydlog i gydnabod a dathlu ymroddiad ac ymrwymiad ein pobl, mewn digwyddiad a oedd yn addas ar gyfer yr achlysur.

“Mae’n gyfle i fyfyrio ar y cyfraniadau a wnaed gan gydweithwyr ledled Cymru.

“A’r rheswm pam mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yw ei bobl – y rhai sy’n gweithio’n ddiflino, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, i wasanaethu pobl Cymru.

“Llongyfarchiadau enfawr i bob un o’n derbynwyr a diolch yn ddiffuant am eich cyfraniadau i Wasanaeth Ambiwlans Cymru.”