Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarwyddwr Anweithredol newydd wedi'i benodi i Fwrdd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

MAE Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi penodi Cyfarwyddwr Anweithredol newydd i’w Fwrdd.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Jayne Beeslee am gyfnod o bedair blynedd, gan ddechrau ei thymor ar 19 Awst 2024.

Yn ogystal â’i rôl fel Cyfarwyddwr Anweithredol, bydd Jayne, sydd wedi’i lleoli yn Ne Cymru, hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad yr Ymddiriedolaeth.

Dywedodd Colin Dennis, Cadeirydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Llongyfarchiadau i Jayne ar ei phenodiad.

“Mae Jayne yn was cyhoeddus profiadol sydd wedi gweithredu ar lefel weithredol ar draws Llywodraeth y DU, gwledydd datganoledig ac mewn ystod amrywiol o gyrff cyhoeddus.

“Ar ran y Bwrdd cyfan, hoffwn ddweud ein bod yn edrych ymlaen at weithio gyda Jayne i wireddu ein huchelgeisiau strategol.”

Mae Jayne wedi arwain darpariaeth weithredol gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llywodraeth ganolog a’i hasiantaethau gan greu sefydliadau newydd a modelau gweithredu arloesol.

Mae ganddi gymwysterau proffesiynol a phrofiad ym meysydd amrywiol adnoddau dynol a datblygiad sefydliadol, cyllid ac argyfyngau sifil, gan ddatblygu cyfuniad o arweinyddiaeth, a brofwyd mewn amgylcheddau ansicr ac ansefydlog.

Mae Jayne wedi bod yn Gymrawd o’r CIPD ers 2006 ac mae’n Ymarferydd MSP profiadol sy’n ymwneud â thrawsnewid busnes, gan gynnwys rhaglenni wedi’u galluogi gan TGCh sy’n canolbwyntio ar wasanaethau pobl craidd.

Mae Jayne hefyd yn ymgymryd â rolau anweithredol yn y sector addysg yng Nghymru ac ym Mhensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus y DU yn ogystal â bod yn adolygydd annibynnol o brif raglenni’r llywodraeth y mae’n eu cyfuno â phortffolio gyrfa ehangach.

Dywedodd Jayne: “Mae’n fraint cael fy mhenodi i Fwrdd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

“Mae’r gwasanaeth dan bwysau dwys ac er bod heriau’n ddiamau o’n blaenau, rydw i’n edrych ymlaen at gymhwyso fy mhrofiad i ychwanegu gwerth at weithgareddau’r Ymddiriedolaeth a’i helpu i gyflawni ei hamcanion strategol mewn gwasanaeth cyhoeddus hollbwysig yng Nghymru.”


Nodiadau gan y golygydd

Am ragor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at y Swyddog Cyfathrebu Jeff.Prescott@wales.nhs.uk neu ffoniwch Jeff ar 07811 748363.