Neidio i'r prif gynnwy

Datgelu rhestr fer Gwobrau WAST 2024

MAE Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi cyhoeddi rhestr fer Gwobrau WAST blynyddol.

Gwnaethpwyd mwy na 300 o enwebiadau ar draws 16 categori, gan gynnwys Tîm y Flwyddyn, Ymatebwr Cymunedol y Flwyddyn a Gwobr Gwasanaeth Meddygol Brys.

Gwahoddwyd staff, gwirfoddolwyr a’r cyhoedd i fwrw pleidlais mewn chwe chategori, tra bod panel o arweinwyr traws-wasanaeth a chynrychiolwyr staff yn pennu’r rhestr fer ar gyfer y lleill.

Cliciwch yma i ddatgelu rhestr fer Gwobrau WAST 2024.

Dywedodd y Prif Weithredwr Jason Killens: “Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr yn rhan annatod o’n gwasanaeth, gan ddod â’r elfen bersonol a dynol hynod bwysig honno i’r rhai sydd â’r angen mwyaf ac ni allem weithredu hebddynt.

“Rydym yn falch o fod yn dathlu ac yn cydnabod eu cyflawniadau, gan roi sylw haeddiannol i’w cyfraniadau eleni.

“Mae’n wych clywed ein bod ni wedi derbyn mwy na 300 o enwebiadau am yr ail flwyddyn yn olynol.

“Mae hyn yn adlewyrchiad cywir o’r ymroddiad a ddangoswyd gan ein staff a’n gwirfoddolwyr dros y 12 mis diwethaf ac rwyf am ddiolch yn bersonol i bob un ohonynt am eu gwaith caled wrth wasanaethu ein cymunedau.

“Fel gyda blynyddoedd blaenorol, mae enwebiadau o safon uchel iawn ac mae pob un yn haeddu gwobr.

“Fodd bynnag, mae ein rhestr fer wir yn tynnu sylw at y gorau oll o’n staff a’n gwirfoddolwyr.

“Diolch i bawb a gymerodd yr amser i gyflwyno enwebiad, p’un a ydych yn aelod o’r cyhoedd neu’n un o’n cydweithwyr.

“Mae eich enwebiadau yn golygu llawer i'n pobl.

Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni ar 12 Tachwedd 2024 yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Casnewydd.

Defnyddiwch yr hashnod #WASTAwards24 i ymuno â'r sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol.