Neidio i'r prif gynnwy

Cwrdd ag enillwyr Gwobrau WAST 2024

13.11.24

DATHLODD Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ei staff a'i wirfoddolwyr mewn seremoni wobrwyo ddoe (dydd Mawrth 12 Tachwedd 2024).

Daeth mwy na 200 o westeion ynghyd yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Casnewydd ar gyfer Gwobrau blynyddol WAST, y bu Arglwydd Raglaw Gwent, y Brigadydd Robert Aitken CBE, hefyd yn bresennol.

Derbyniwyd mwy na 300 o enwebiadau ar gyfer digwyddiad eleni, sydd wedi’i gynllunio i gydnabod staff, gwirfoddolwyr a’r cyhoedd am eu cyfraniadau dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ymhlith yr enillwyr roedd tîm ‘Ymbaratoi’ yn y Barri, Bro Morgannwg, a enillodd wobr fawreddog Tîm y Flwyddyn.

Mae cynorthwywyr fflyd Ymbaratoi yn glanhau ac ailstocio cerbydau ambiwlans, gan wella rheolaeth heintiau a rhyddhau criwiau ambiwlans i dreulio mwy o amser yn y gymuned.

Dywedodd Tony Crandon, Rheolwr Gwasanaeth Depo Ymbaratoi: “Mae'n wych gweld y tîm yn ennill gwobr mor chwenychedig.

“Rwy’n falch o bob un o’n timau Ymbaratoi ledled Cymru oherwydd mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn bwysig iawn, ond mae tîm y Barri yn arbennig yn mynd gam ymhellach, ac mae’r cyfeillgarwch maen nhw wedi’i ffurfio yn wych i’w weld.”

Aeth Gwobr yr Iaith Gymraeg i gydweithwyr yn GIG 111 Cymru am eu hymroddiad i wella'r gyfradd ateb galwadau Cymraeg ar gyfer y gwasanaeth 111.


Mae cynllun gwella a ddatblygwyd ganddynt wedi gweld nifer y galwadau 111 a atebwyd yng Nghymru yn cynyddu o 18 y cant i 46 y cant.

Dywedodd Melfyn Hughes, Rheolwr Gwasanaethau Cymraeg yr Ymddiriedolaeth: “Rwy'n falch iawn o weld ymdrechion y tîm yn cael eu cydnabod ac maent yn llawn haeddu'r wobr.

“Maen nhw wedi dangos, gyda'r dull cywir, cymhwysiad ac awydd, ei bod hi'n bosib gwneud gwahaniaeth go iawn i'r gwasanaeth Cymraeg rydyn ni'n ei gynnig i bobl Cymru.

“Da iawn i bawb sy'n cymryd rhan yn y cyflawniad aruthrol hwn.”


Aeth y Wobr Cydnabyddiaeth Gyhoeddus i’r Samariad da Owen Mansel, 19, a ddefnyddiodd ei hyfforddiant cymorth cyntaf o rôl flaenorol fel achubwr bywydau i gynorthwyo nid un, ond dau argyfwng meddygol mewn un diwrnod, dim ond 100 llath oddi wrth ei gilydd.

Wrth yrru aelod o'r cyhoedd a oedd wedi cwympo i'r ysbyty, daeth y prentis mecanydd ar draws damwain ffordd ddifrifol.

Rhoddodd gywasgiadau ar y frest i'r claf a chefnogodd y parafeddyg Ross Griffin yn y fan a'r lle nes i gymorth pellach cyrraedd.

Dywedodd y Prif Weithredwr Jason Killens: “Dangosodd Owen ymdrech ryfeddol.

“Mae nid yn unig stopio, ond cynorthwyo ac aros tra bod rhywun mewn angen dirfawr, yn ganmoladwy, ac mae gwneud hyn ddwywaith mewn un diwrnod yn wirioneddol ysbrydoledig.

“Fe wnaeth gweithredoedd Owen helpu i reoli ac asesu’r sefyllfa cyn i ragor o gymorth cyrraedd a sicrhau bod y driniaeth orau bosibl ar gael.

“Rwy’n estyn fy niolchgarwch i Owen yn yr hyn a oedd yn amlwg yn swydd anodd a thrallodus iawn.”


Aeth Gwobr y Cadeirydd i'r Rheolwr Datblygu Sefydliadol Fatehullah Tahir, a gafodd ei gydnabod am y gofal, y tosturi a'r parch y mae'n ei roi i eraill.

Dywedodd Sara Mills, Pennaeth Diwylliant a Datblygiad Sefydliadol: “Mae gan Faz allu unigryw i wrando a gofyn y cwestiynau cywir, bob amser gydag addfwynder ac empathi i ddeall yn well y materion sy'n effeithio ar ein pobl a helpu i ddylunio datrysiadau sydd wir yn gwneud gwahaniaeth.

“Roedd ei sgiliau gwrando eithriadol yn caniatáu iddo gefnogi cydweithwyr trwy rai o’u momentau mwyaf heriol.

“Mae Faz yn aelod gwerthfawr o’r Tîm Datblygu Sefydliadol ac yn enillydd haeddiannol.”


Dywedod y Cadeirydd Colin Dennis: “Ein pobl ni yw wead Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a heb eu hymdrechion anhygoel, ni fyddem yn gallu gwneud yr hyn a wnawn.

“Mae’n gwbl briodol ein bod yn dathlu eu cyfraniadau ac yn cydnabod eu cyflawniadau dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae Gwobrau WAST yn gyfle i staff, gwirfoddolwyr ac aelodau’r cyhoedd diolch wrth dynnu sylw at gyfraniadau amhrisiadwy ein pobl.

“Heddiw, fe wnaethon ni ddathlu popeth sy'n wych am y sefydliad hwn a diolch i'n staff a'n gwirfoddolwyr am y gwaith rhyfeddol maen nhw'n ei wneud, o ddydd i ddydd.

“Diolch i bawb a gymerodd yr amser i gyflwyno enwebiad neu fwrw pleidlais.”

Cliciwch yma i wylio'r recordiad o'r digwyddiad ddoe.

Rhestr lawn o'r enillwyr:

Emergency Medical Service Award
North: Dermot O’Leary (Locality Manager, Rhyl)
South East: Ceremonial Team
Central: Dr Ian Russell (BASICS Doctor)
South Central: Bradley Lovelock (Emergency Medical Technician, Whitland)

Ambulance Care Award
North: Operational Team Leaders
Central and West: Daniel Luke Jones (Ambulance Care Assistant, Swansea)
South East: Lucy Evans (South East Control Team Leader)
South Central: Colin Barnett (Ambulance Care Assistant)

Clinical Contact Centre Award
North: Lewis Hall (EMSC Call Handler)
Central: Josie Rees (Assistant EMS Controller)
South East: Laura Charles (Duty Control Manager)

Support Services Award
ICT Team

Community Responder of the Year Award
Ben James (Tenby, Pembrokeshire Team)

Community Responder Team of the Year Award
Fairbourne Team (South Gwynedd)

Volunteer Car Service Driver of the Year Award
George Lawrance (Volunteer Car Service Driver, Neath)

Team of the Year Award
Barry Make Ready Department

Gail Williams Award
Emergency Medical Services Team (South Wales)

Inspiring Others Award
North: Stephanie Young (Volunteer Support Officer)
Central and West: James Bingham (Paramedic) and Steve Hutchinson (Paramedic)
South East: Alan Williams (Operational Team Leader, Cardiff and Vale)

Great Listener Award
North: Meryl Jones (Quality Audit Manager)
Central and West: Lium Jones (Cymru High Acuity Response Unit, Bryncethin)

South East: Anthony Rich (Transfer Team Leader)

Learning and Innovation Award
Connected Support Cymru team

Integrated Care Award
North:
Samantha Winnett (NHS 111 Wales Nurse Advisor)
Central and West: Carla Hope (Clinical Contact Centre Clinician)
South East: Will Adams (Senior Mental Health Clinician)

Public Recognition Award
Owen Mansel

People’s Choice Award
Melissa Harris (111 Call Handler)

Welsh Language Award
NHS 111 Wales Management Team

Chair’s Award
Fatehullah Tahir (Organisational Development Manager, Cwmbran)

Chief Executive’s Award
Corporate Governance Team