Neidio i'r prif gynnwy

Diogelu adnoddau ambiwlans dros Ŵyl y Banc

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn annog y cyhoedd i warchod eu hadnoddau dros benwythnos Gŵyl y Banc.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn atgoffa'r cyhoedd am y dewisiadau amgen i 999 i ddiogelu ei hadnoddau gwerthfawr ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf.

  • Casglwch unrhyw bresgripsiynau amlroddadwy cyn y penwythnos tridiau.
  • Sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf llawn i drin mân anhwylderau gartref.
  • Gwiriwch eich symptomau ar wefan GIG 111 Cymru, neu ffoniwch 111 os ydych yn ansicr.
  • Ymwelwch â'ch fferyllfa leol, lle gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cymwys gynnig cyngor clinigol am ddim a meddyginiaethau dros y cownter ar gyfer ystod o anhwylderau cyffredin.
  • Ymwelwch ag Uned Mân Anafiadau ar gyfer anafiadau nad ydynt yn ddifrifol.

Mae aelodau'r cyhoedd hefyd yn cael eu hannog i gadw llygad ar unrhyw aelodau teulu, ffrindiau neu gymdogion oedrannus neu sy’n agored i niwed ac i sicrhau bod eu cabinetau meddyginiaeth yn cynnwys meddyginiaeth ddefnyddiol a diweddar.

Dywedodd Sonia Thompson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau’r Ymddiriedolaeth (Gwasanaeth Meddygol Brys): “Fel arfer, rydyn ni’n disgwyl i gyfnod Gŵyl y Banc fod yn un prysur i ni a dyna pam rydyn ni’n gofyn am help pawb i sicrhau ein bod ni yno i'r rhai sydd fwyaf sâl neu wedi'u hanafu fwyaf dros Ŵyl y Banc.

“Os byddwch chi’n ffonio ni am rywbeth nad yw’n argyfwng, fe allech chi fod yn cymryd amser ac adnoddau gwerthfawr oddi wrth rywun sydd mewn argyfwng gwirioneddol sy’n bygwth bywyd.

“Dylai pobl ddeall hefyd nad yw’r ffaith eich bod yn ffonio ambiwlans neu’n cael eich cludo i’r ysbyty mewn ambiwlans yn golygu y byddwch yn cael eich trin yn gynt ar ôl i chi gyrraedd yr adran achosion brys.

“Felly, helpwch ni i’ch helpu chi ac ystyried yr ystod o wasanaethau eraill sydd ar gael i chi.”

Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn atgoffa defnyddwyr ffyrdd i gymryd gofal ar y ffyrdd.

Dywedodd Dermot O’Leary, Rheolwr Ardal Dros Dro ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych a hyrwyddwr diogelwch ffyrdd yr Ymddiriedolaeth: “Mae’r ffyrdd hyd yn oed yn brysurach dros Ŵyl y Banc, a dyma lle mae gennych chi rôl i’w chwarae fel gyrrwr.”

Dyma awgrymiadau Dermot i gadw’n ddiogel dros Ŵyl y Banc a phob dydd –

  • Gwisgwch wregys diogelwch bob amser.
  • Cadwch ddigon o bellter rhyngoch chi a'r car o'ch blaen.
  • Cadwch lygad allan am gyflymder a llif traffig.
  • Ffonau symudol i ffwrdd a'u cadw yn rhywle diogel.
  • Dim alcohol na chyffuriau.
  • Os oes gennych bobl yn tynnu eich sylw yn y car, gofynnwch iddyn nhw fod yn dawel.
  • Os byddwch chi’n torri lawr, sicrhewch fod gennych yr offer angenrheidiol i'ch cadw'n ddiogel ar ochr y ffordd, siaced lachar neu felen a symudwch i fyny'r banc/i ffwrdd a thu ôl i'r cerbyd i alw ac aros am gymorth.

Ychwanegodd Dermot: “Os ydych y tu ôl i’r llyw cofiwch, ni ddylai fod dim alcohol yn eich system – mae yfed a gyrru yn gyfuniad peryglus.

“Mae alcohol yn arafu eich ymateb ac yn amharu ar eich crebwyll.

“Os yw’r teulu yn cynllunio dod at ei gilydd, cynlluniwch ymlaen llaw a threfnwch yrrwr neu dacsi dynodedig i fynd â chi adref.

“Peidiwch â gwneud i ni godi'r darnau, gyrrwch yn ddiogel.

“Mae’n bwysig bod ein hambiwlansys brys yn cael eu gwarchod ar gyfer y rhai sydd ein hangen fwyaf a bod 999 yn cael ei gadw ar gyfer yr argyfyngau mwyaf difrifol sy’n bygwth bywyd yn unig.”

Nodiadau gan y Golygydd

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at y Swyddog Cymorth Cyfathrebu Laura.Abraham@wales.nhs.uk.