MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi ennill statws Ymddiriedolaeth Brifysgol.
Mae'r statws y mae mawr alw amdano wedi'i roi gan Lywodraeth Cymru i gydnabod ymrwymiad yr Ymddiriedolaeth i ddatblygu ei gweithlu presennol ac yn y dyfodol ac i ysgogi ymchwil ac arloesi.
O 1 Ebrill 2024, enw newydd yr Ymddiriedolaeth fydd Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Dywedodd y Prif Weithredwr Jason Killens: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau statws Ymddiriedolaeth Brifysgol, ond mae hyn yn llawer mwy na newid enw yn unig.
“Mae’n gyfle cyffrous i gydnabod yn ffurfiol y rôl rydym yn ei chwarae yn addysg a datblygiad gweithwyr ambiwlans a’r ymchwil o safon fyd-eang yr ydym yn ei wneud i wella iechyd y cyhoedd a gwella triniaethau yn y GIG, gan wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.”
Dywedodd Jo Kelso, Pennaeth Addysg a Datblygiad Gweithlu’r Ymddiriedolaeth: “Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cydweithwyr yn cael y cyfleoedd addysg a datblygu gorau oll, ac mae ein partneriaeth â phrifysgolion yn allweddol i hyn.
“Mae cannoedd o gydweithwyr ar draws y sefydliad, ym mhob maes o’r gwasanaeth, wedi cael cymorth i ehangu eu galluoedd a’u gwybodaeth drwy’r llwybrau gyrfa niferus ac amrywiol sydd ar waith.
“Nid yw hynny'n sôn am y llu o gydweithwyr clinigol sydd wedi cael cymorth i ddatblygu eu sgiliau - ar hyn o bryd, mae mwy na 250 o barafeddygon dan hyfforddiant yn cael eu hyfforddi gyda mwy na 100 yn fwy ar fin dechrau astudio'n llawn amser.
“Bydd sicrhau statws Ymddiriedolaeth Brifysgol yn cryfhau ein cysylltiadau â phrifysgolion Cymru a’r rhwydwaith prifysgolion ehangach.”
Dywedodd yr Athro Nigel Rees, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil ac Arloesi: “Roedd WAST ymhlith y gwasanaethau ambiwlans cyntaf yn rhyngwladol i groesawu’r byd academaidd ac mae ganddo enw da ers tro am ddatblygu a darparu ymchwil ac arloesedd o ansawdd uchel.
“Mae statws Ymddiriedolaeth Brifysgol yn gydnabyddiaeth deilwng o ymdrechion ein pobl, a phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol sy’n cydweithio i ddatblygu gofal iechyd effeithlon, effeithiol a chynaliadwy o’r radd flaenaf.”
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Anweithredol Hannah Rowan, Cadeirydd Pwyllgor Partneriaethau Academaidd yr Ymddiriedolaeth: “Mae’r symudiad i fod yn Ymddiriedolaeth Prifysgol yn cyfleu, yn pwysleisio ac yn cydnabod y gwaith rydym yn ei wneud gyda phrifysgolion ac yn dangos y ffocws cynyddol ar hyfforddiant ac ymchwil.
“Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ein cefnogi i lywio’r daith hon, sydd wedi bod ar y gweill ers sawl blwyddyn.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Rwy’n falch iawn o roi statws Ymddiriedolaeth Brifysgol i Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
“Mae hyn yn cynrychioli ymrwymiad gan yr Ymddiriedolaeth i sicrhau bod arbenigedd a gweithgarwch prifysgol yn gwella ansawdd gofal a chanlyniadau i gleifion.
“Mae statws Ymddiriedolaeth Brifysgol yn unigryw i Gymru ac yn seiliedig ar asesiad cadarn o ystod eang o dystiolaeth ar draws ein tri maen prawf – Ymchwil a Datblygu; Hyfforddiant ac Addysg; ac Arloesi.”
Mae'r Ymddiriedolaeth wedi cychwyn ar ymarfer ail-frandio graddol i adlewyrchu statws Ymddiriedolaeth Brifysgol, yn ogystal â'i Bathodyn y Goron newydd yn dilyn coroni'r Brenin Siarl III.