31.01.25
DYWED gweithiwr ambiwlans a gafodd ei phenio tra ar ddyletswydd fod yr ymosodiad treisgar wedi ei gadael ag anhwylder straen wedi trawma.
Cafodd Joanne Jones, Ymarferydd Ambiwlans Brys gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn Ninbych, ei phenio dwywaith gan glaf, a oedd hefyd yn ei gadael â thrwyn gwaedlyd.
Mae’r ymosodiad yn 2023, ynghyd â chyfres o rai eraill – gan gynnwys digwyddiad ‘dychrynllyd’ o gam-drin geiriol fis Mehefin diwethaf – wedi gadael y fam i ddau o blant yn methu â gweithio ac angen cwnsela.
Dywedodd Joanne, 46 oed: “Fy nod yw dod yn ôl i’r gwaith, ond mae meddwl amdano yn dal i wneud i mi deimlo’n sâl yn gorfforol.
“Dwi’n teimlo’n dwp ac fel fy mod i’n siomi pawb, ond dydw i ddim yn barod eto.”
Roedd Joanne, sy’n hyfforddi i fod yn barafeddyg, ar leoliad yn Ysbyty Glan Clwyd ym mis Gorffennaf 2023 pan aeth claf yr oedd hi’n ceisio’i gynorthwyo i fod yn ymosodol.
Mae hi'n cofio: “Roedden ni newydd ei drosglwyddo i droli ysbyty pan bu iddo ymgordeddu yn y tiwbiau a'r gwifrau amrywiol.
“Wrth i mi geisio ei ddatrys, aeth yn ymosodol a dechreuodd ddyrnu o gwmpas.
“Dyna pryd symudodd ei ben yn ôl a mynd nerth ei draed, gan fy mhenio i ddwywaith, a pharhau i ddyrnu a chicio allan nes bod aelodau eraill o staff yn gallu ei atal.
“Roeddwn i’n gallu teimlo fy wyneb yn chwyddo, felly roedd yn rhaid i mi fynd i’r adran achosion brys fel claf.
“Wrth i mi sgwrsio â’r nyrs brysbennu, ffrwydrodd fy nhrwyn â gwaed.”
Rhoddwyd cyffur lleddfu poen i Joanne a chafodd ei hanfon am belydr-x, a ddatgelodd doriad bach posibl yn ei gên.
Dywedodd Joanne, sy’n cael ei chefnogi gan ei phartner John Paul Jones, Ymarferydd Ambiwlans Brys yn Y Rhyl, yn ogystal â thîm lles yr Ymddiriedolaeth: “Doeddwn i ddim yn medru bwyta nac yfed am ddyddiau wedyn.
“Hyd yn oed nawr, fwy na blwyddyn yn ddiweddarach, does gen i ddim teimlad yn ochr dde fy wyneb, gan gynnwys yn fy ngwefus waelod.
“Ar ôl hynny, ces i rediad anlwcus iawn o drais ac ymddygiad ymosodol, a arweiniodd at ddigwyddiad brawychus fis Mehefin diwethaf pan fygythiodd claf fy lladd, sef y gwelltyn olaf.”
Cafodd Joanne ddiagnosis o anhwylder straen wedi trawma ac mae wedi cael cwnsela rheolaidd, gan gynnwys therapi amlygiad hirfaith i geisio goresgyn y trawma.
Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Gall gweithred o drais hanner eiliad gael effaith ddinistriol a hirdymor ar ein staff a’n gwirfoddolwyr.
“Mae Joanne yn enghraifft fyw o hynny, ac mae’n dorcalonnus ei bod yn parhau i ysgwyddo creithiau corfforol ac emosiynol yr hyn a ddigwyddodd.
“Mae unrhyw fath o drais neu ymddygiad ymosodol yn erbyn gweithwyr ambiwlans yn gwbl annerbyniol, a dyna pam y byddwn bob amser yn ceisio erlyn y rhai sy’n niweidio ein pobl.
“I’r perwyl hwnnw, ein ple i farnwyr ac ynadon yw defnyddio graddau llawn eu pwerau dedfrydu wrth ymdrin â’r rhai sy’n gyfrifol, gan gydnabod bod ymosod ar weithiwr brys yn ffactor gwaethygol ac y dylid ei ystyried yn drosedd fwy difrifol.”
Bu Rheolwyr Achosion Trais ac Ymosodedd yr Ymddiriedolaeth yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron i ddwyn cyhuddiadau yn erbyn Bradley Roberts, 24, o Landrillo-yn-Rhos.
Yn Llys Ynadon Llandudno ddoe (dydd Iau 30 Ionawr 2025), cafodd Roberts ei ddedfrydu i 52 wythnos yn y carchar, wedi’i ohirio am 24 mis, ar ôl cyfaddef ymosodiad a oedd yn achosi gwir niwed corfforol (ABH), a gorchymwyd iddo hefyd dalu iawndal o £400 i’w ddioddefwr.
Cyflawnwyd mwy na 3,000 o ymosodiadau yn erbyn gweithwyr brys Cymru yn y 12 mis hyd at fis Mehefin 2024, sef cynnydd o naw y cant o flwyddyn i flwyddyn.
Ym mis Mai 2021, lansiodd Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys Cymru ei ymgyrch Gyda Ni, Nid Yn Ei Herbyn Ni i geisio lleihau nifer yr ymosodiadau ar weithwyr brys.
Addunedwch eich cefnogaeth i’r ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #WithUsNotAgainstUs neu #GydaNiNidYnEinHerbyn.