24.10.24
MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi’i goroni’n enillydd dwy Wobr GIG Cymru 2024.
Mae Gwobrau blynyddol GIG Cymru yn dathlu’r gwaith gwella ansawdd sydd wedi trawsnewid y profiad a’r canlyniadau i bobl yng Nghymru.
Mae hefyd yn gyfle i arddangos y staff iechyd a gofal dawnus yn cydweithio i wella gwasanaethau a gofal cleifion ledled Cymru.
Yn y seremoni heno (dydd Iau 24 Hydref 2024) yng Nghaerdydd, enillodd yr Ymddiriedolaeth wobr ddwbl ar gyfer dau brosiect gwella gwahanol.
Y prosiectau buddugol yw:
NHS Wales Effective Care Award: Cyflwyno meddyginiaeth lleddfu poen Penthrox
NHS Wales Safe Care Award : Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol
Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Rydym yn hynod falch o fod yn mynd â nid dim ond un, ond dwy Wobr GIG Cymru tra chwenychedig adref.
“Mae lleddfu poen yn gyflym ac yn effeithiol i gleifion sydd wedi profi trawma yn rhan bwysig o’u gwneud yn fwy cyfforddus, felly roedd cyflwyno Penthrox i’n cyfres o gyffuriau lleddfu poen y llynedd wedi newid y gêm.
“Yn y cyfamser, mae ein hymdrechion i wella’r gofal yr ydym yn ei ddarparu i fabanod newydd-anedig o ran thermoreoli wedi bod yn ganmoladwy.
“Llongyfarchiadau i gydweithwyr ar fuddugoliaeth haeddiannol iawn.”
Ychwanegodd Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar a Phrif Weithredwr GIG Cymru: “Llongyfarchiadau i’r enillwyr ond hefyd i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr heddiw.
“Mae Gwobrau GIG Cymru yn un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn.
“Rwy’n falch iawn o weld lled y prosiectau gwella ansawdd sydd ar y gweill ar draws GIG Cymru i drawsnewid ein gwasanaethau i’r bobl rydym yn gofalu amdanynt.
“Gobeithio eich bod i gyd yn haeddiannol falch o’ch cyflawniadau yn y cyfnod heriol hwn.”
I ddarllen mwy am y cystadleuwyr a’r enillwyr eleni, ewch i: nhsawards.wales