Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau WAST 2024

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gwahodd enwebiadau ar gyfer ei seremoni wobrwyo flynyddol.

Gallwch enwebu staff a gwirfoddolwyr o unrhyw ran o'r sefydliad mewn cyfanswm o 18 o gategorïau, gan gynnwys y Wobr Tîm y Flwyddyn fawr ei bri a'r Wobr Gofal Integredig newydd.

Mae Gwobr Dewis y Bobl yn galluogi aelodau’r cyhoedd i estyn diolch arbennig i dîm neu unigolyn am ddarparu gofal rhagorol.

Gallwch hefyd enwebu aelod o'r cyhoedd ar gyfer Gwobr Cydnabyddiaeth Gyhoeddus, sydd wedi'i chynllunio i ddathlu'r rhai sy'n mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau i helpu pobl yn eu cymuned.

Cynhelir Gwobrau WAST 2024 ar 12 Tachwedd 2024 yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol, Casnewydd, a bydd yn cynnwys cinio ffurfiol.

Gall unrhyw un gyflwyno enwebiad, gan gynnwys staff, gwirfoddolwyr, cleifion, aelodau'r cyhoedd ac asiantaethau partner. 

Dywedodd y Prif Weithredwr Jason Killens: “Ein pobl ni yw wead Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a heb eu hymdrechion anhygoel, ni fyddem yn gallu gwneud yr hyn a wnawn.

“Mae’n gwbl briodol ein bod yn dathlu eu cyfraniadau ac yn cydnabod eu cyflawniadau dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae Gwobrau WAST yn gyfle i staff, gwirfoddolwyr ac aelodau’r cyhoedd ddweud diolch yn fawr wrth dynnu sylw at gyfraniadau amhrisiadwy ein pobl.

“Rydym yn diolch i’n holl staff a gwirfoddolwyr anhygoel ac yn edrych ymlaen at dderbyn yr enwebiadau eleni.”

Gallwch weld rhestr lawn o gategorïau yma.

Cliciwch yma i gyflwyno enwebiad ond byddwch yn gyflym, y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 11.59am ddydd Mawrth 27 Awst 2024.

Ni fydd enwebiadau a dderbynnir ar ôl yr amser hwn yn gymwys i'w hystyried ac ni allwn ymestyn y dyddiad cau.

Unwaith y bydd y ceisiadau wedi cau, bydd staff a'r cyhoedd yn gallu dylanwadu ar yr enillwyr drwy fwrw pleidlais ar-lein.

Defnyddiwch yr hashnod #GwobrauWAST24 i ddilyn y sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol.

Nodiadau gan y golygydd

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at y Swyddog Cyfathrebu Jeff.Prescott@wales.nhs.uk neu ffoniwch Jeff ar 07811 748363.