18.06.24
MAE dyn o Gaerdydd a wnaeth fombardio’r gwasanaethau brys â galwadau ffôn camdriniol a bygythiol wedi cael ei ddedfrydu yn y llys.
Gwnaeth Adil Hassan, 36, o Sgwâr Loudoun, Caerdydd, fwy na 100 o alwadau i Wasanaethau Ambiwlans Cymru rhwng 10 a 16 Mai, lle byddai’n gweiddi, rhegi ac yn defnyddio iaith rywiol eglur.
Yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener, fe blediodd yn euog i'r defnydd cyson o rwydwaith cyfathrebu cyhoeddus i achosi annifyrrwch, anghyfleustra neu orbryder.
Am hyn a chyhuddiadau eraill, dedfrydwyd Hassan i 24 wythnos yn y carchar, wedi'i ohirio am 18 mis.
Dywedodd Laura Charles, Rheolwr Rheoli ar Ddyletswydd gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Yn ystod fy holl flynyddoedd yn y gwasanaeth ambiwlans, dyma’r cam-drin geiriol gwaethaf a glywais erioed o bell ffordd.
“Wrth ffonio 999, nid oedd Hassan yn ffonio i ofyn am help ar gyfer argyfwng meddygol.
“Roedd e’n ffonio dim ond i gam-drin y derbynwyr galwadau neu i fentio am rywbeth oedd yn ei boeni.
“Bu’n rhaid i’r trinwyr galwadau o bob un o’n tair ystafell reoli yng Nghymru oddef ei iaith anweddus, a hynny wrth ddelio â nifer fawr o alwadau i’r gwasanaeth.
“Un funud, ro’n ni’n derbyn galwad am ataliad ar y galon gan aelod o’r teulu mewn trallod, a’r funud nesaf ro’n ni’n cael ein galw’n butain gan Hassan.
“Gall cam-drin yn eich clust fod yr un mor niweidiol, os nad yn fwy niweidiol, na chael eich cam-drin wyneb yn wyneb.
“Mae’r derbynwyr galwadau wedi’u hyfforddi i aros yn ddigynnwrf ac ymddwyn yn broffesiynol waeth beth maen nhw’n delio ag ef, ond gwnaeth cam-drin Hassan hyn yn anodd.
“Gwnaethon ni gymaint ag y gallwn i gefnogi derbynwyr galwadau yn ystod ei fombardio, ond alla i ddim ddechrau dweud wrthych yr effaith a gafodd arnyn nhw.”
Ychwanegodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau: “Gallai pob eiliad a dreuliwyd yn delio â galwadau Hassan fod wedi cael ei dreulio yn helpu rhywun mewn ataliad ar y galon neu wrthdrawiad traffig ffordd difrifol.
“Mae un alwad camdriniol yn un yn ormod, ond mae mwy na 100 yn ffiaidd a dweud y gwir.
“Mae'r rhain yn dderbynwyr galwadau sy'n dod i'r gwaith i helpu pobl yn eu hawr dywyllaf, felly mae bod yn destun cam-drin Hassan yn dorcalonnus ac nid yw'n dderbyniol.
“Mae ymosodiad ar un ohonom yn ymosodiad ar bob un ohonom, a dyna pam y byddwn yn mynd ar drywydd trais ac ymddygiad ymosodol yn erbyn gweithwyr brys yr holl ffordd i’r llysoedd.”
Plediodd Hassan, sydd hefyd wedi gwneud galwadau lluosog i Heddlu De Cymru, yn euog i achosi niwsans cyhoeddus yn fwriadol neu'n ddi-hid.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Andy Lewis o Heddlu De Cymru: “Gallai gweithredoedd Adil Hassan beryglu iechyd a diogelwch y cyhoedd oherwydd bod y gwasanaethau brys yn cael eu tagu wrth ddelio â’i alwadau diangen parhaus.
“Ni ddylai neb ddioddef y math o iaith a ddefnyddiodd Hassan yn ystod y galwadau.
“Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd ohiriedig hon yn rhybudd iddo ei fod mewn perygl o fynd i’r carchar os bydd yn parhau i ymddwyn fel hyn.
“Bydd Heddlu De Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn cydweithwyr yn y gwasanaethau brys a’r cyhoedd mewn achosion fel hyn.”