Neidio i'r prif gynnwy

GIG 111 Cymru yn lansio technoleg canolfan gyswllt arloesol newydd

Mae GIG 111 Cymru wedi lansio technoleg galwadau ac asesu clinigol arloesol yn ei ganolfannau cyswllt.

Mae’r system newydd yn galluogi cynghorwyr iechyd 111 i flaenoriaethu a chyfeirio cleifion yn well at y llwybr gofal mwyaf priodol, a allai gynnwys parafeddyg neu nyrs yn galw yn ôl, cael galwad yn ôl neu ymweld â meddyg teulu neu fferyllydd neu hunanofal yn y cartref.

111 yw’r rhif ffôn rhad ac am ddim ar gyfer cymorth a chyngor gofal iechyd brys os ydych yn sâl neu wedi’ch anafu ac yn ansicr beth i’w wneud.

Yn y cyfamser, mae'r wefan 111.cymru.gig.uk hefyd yn gartref i gyngor a gwybodaeth iechyd a chyfoeth o wirwyr symptomau.

Dywedodd Stephen Clinton, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau (Gofal Integredig) Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, sy’n darparu gwasanaeth GIG 111 Cymru: “Mae 111 yn gweithredu fel porth cyntaf ar daith claf o fewn y system iechyd a gofal gan roi’r cyngor neu’r atgyfeiriad cywir iddynt bob tro.

“Gyda dros filiwn o alwadau’r flwyddyn, mae mor bwysig ein bod yn defnyddio technoleg sy’n rhoi profiad da i’n cleifion, ac i’r cynghorwyr iechyd sy’n eu helpu.

“Hoffem ddiolch yn fawr iawn i gydweithwyr ar draws y sefydliad, mewn byrddau iechyd a thu hwnt sydd wedi gweithio ar y cyd i roi’r system newydd ar waith.”

GIG 111 Cymru yw’r gwasanaeth cyntaf yn y byd i ddefnyddio’r System Ffrydio Blaenoriaethu Galwadau a gymeradwywyd gan Academïau Rhyngwladol ar gyfer Dosbarthu Brys.

Mae system brysbennu clinigol newydd hefyd yn galluogi nyrsys a pharafeddygon yng nghanolfannau cyswllt yr Ymddiriedolaeth i gael gafael ar y cymorth penderfyniadau clinigol diweddaraf sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Dywedodd Dr Mike Brady, Cyfarwyddwr Clinigol Cynorthwyol ar gyfer Gofal Clinigol o Bell: “Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i GIG 111 Cymru, a bydd y system newydd hon yn gwella ac yn moderneiddio’n sylweddol y ffordd yr ydym yn darparu gofal i gleifion.

“Mae cyfuno tystiolaeth glinigol, technoleg fodern a chyfleoedd ar gyfer rhyngweithredu yn golygu bod cleifion yn cael y gofal cywir, gan y person cywir, y tro cyntaf, ac yn sicrhau ein bod yn gweithio’n effeithiol o fewn yr amgylchedd gofal brys integredig ehangach yng Nghymru.”

Nodiadau gan y golygydd

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at y Swyddog Cyfathrebu Jeff.Prescott@wales.nhs.uk neu ffoniwch ar 07811748363.