Neidio i'r prif gynnwy

Goroeswr ataliad ar y galon o Bontypridd yn cwrdd ag achubwyr bywyd ambiwlans

MAE dyn o Bontypridd a gafodd ataliad ar y galon wrth wneud paned o de wedi diolch i’w bartner a’r criw ambiwlans a achubodd ei fywyd.

Roedd hi'n fore Sadwrn ym mis Medi pan lewygodd y gyrrwr danfon 50 oed, Neil Jones gartref heb rybudd.

Gan gydnabod ei fod mewn trwbwl, galwodd ei bartner Pam Gregory 999.

Wrth i Neil stopio anadlu, rhoddodd Pam CPR i'w phartner o 30 mlynedd ar lawr yr ystafell fyw.

Dywedodd Pam, 55: “Roedd hi’n fore Sadwrn ac roedden ni jyst yn codi o’r gwely.

“Roedd Neil wedi rhoi’r tegell ymlaen i wneud paned o de i ni, yna’r unig beth roeddwn i’n gallu ei glywed oedd yr anadlu drwm yma.

“Ro’n i’n gallu gweld o'i lygaid ‘nad oedd neb gartref' fel petai, felly fe wnes i ffonio 999 oherwydd ro’n i'n meddwl ei fod yn cael strôc i ddechrau.

“Pan ddywedodd y triniwr galwadau wrtha i am gael Neil ar y llawr, fe wnes i daflu’r cŵn allan o’r ystafell a rhedeg i’r stryd i weiddi am help gan gymydog.

“Rydw i wedi gwneud llawer o gyrsiau cymorth cyntaf yn y gorffennol ar ôl gweithio gyda phlant, ond does dim byd yn eich paratoi chi ar gyfer gorfod gwneud CPR ar eich partner.”

Dywedodd Neil: “Ni allaf gofio unrhyw beth o’r diwrnod hwnnw, ond gallaf gofio peidio â theimlo’n hollol iawn am ryw wythnos cyn iddo ddigwydd.

“Roedd gen i rywfaint o boen yn y frest ond fel mae llawer o ddynion yn tueddu ei wneud, fe wnes i ei anwybyddu, gan feddwl mai llosg y galon oedd e.

“Roeddwn i wedi camddeall yn llwyr!”



Pan fydd rhywun yn cael ataliad ar y galon, maen nhw’n llewygu ac yn mynd yn anymatebol.

Maen nhw naill ai'n stopio anadlu'n llwyr, neu efallai y byddant yn anadlu’n drwm neu'n anadlu’n anaml am rai munudau, y gellir eu camddehongli fel chwyrnu.

Os ydych chi’n gweld rhywun yn cael ataliad ar y galon, ffoniwch 999 a dechreuwch CPR.

Bydd triniwr galwadau ambiwlans yn dweud wrthych ble mae eich diffibriliwr agosaf.

Derbyniodd y triniwr galwadau Emily Ashe alwad 999 Pam yn ystafell reoli Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn Llanfairfechan, Conwy.

Dywedodd: “Fel triniwr galwadau, rydych chi wir yn teimlo dros bobl mewn senario ataliad ar y galon oherwydd ei fod mor annifyr, ond ein gwaith ni yw eu cadw'n dawel a'u cael i ddilyn ein cyfarwyddiadau.

“Gall gwybodaeth sylfaenol iawn am gymorth cyntaf fod mor ddefnyddiol ond hyd yn oed hebddi, byddwn yn siarad â chi drwy bob cam.

“Awgrym arall yw ceisio darganfod ble mae eich diffibriliwr agosaf, i'ch cartref a'ch gweithle.

“Mae pob eiliad yn cyfrif mewn ataliad ar y galon, a gallai fod y gwahaniaeth rhwng bywyd neu farwolaeth.

“Mae’r galwadau rydyn ni’n eu cymryd yn rhai cefn wrth gefn, felly dydych chi ddim yn tueddu i gofio llawer ohonyn nhw, ond mae’r un yma’n sefyll allan oherwydd y parot.”

Datblygodd parot Amazon, 13 oed y cwpl, Taz, hoffter o'r parafeddyg Zoey Silva, sef y cyntaf i gyrraedd y lleoliad.

Mae Zoey yn barafeddyg Uned Ymateb Aciwtedd Uchel Gymru (CHARU) gyda sgiliau ac offer ychwanegol sy'n ei galluogi i ddarparu gofal uwch i gleifion.

Mae mwy na 100 o barafeddygon CHARU yn gweithredu ledled Cymru yn ymateb i’r galwadau mwyaf brys, gan gynnwys ataliadau ar y galon, gwrthdrawiadau traffig ffyrdd, trawma mawr ac argyfyngau mamolaeth.

Dywedodd Zoey, sydd wedi’i lleoli yn y Ddraenen-wen: “Dw i’n cofio’r swydd yn dda, oherwydd hwn oedd diwrnod poetha’r flwyddyn, a phan es i mewn i’r eiddo, roedd Pam yn gwneud CPR ar y llawr.

“Cymerais drosodd i wneud CPR a chysylltais ein dyfais 'LUCAS' i Neil, sy'n rhoi cywasgiadau mecanyddol ar y frest i bobl sy'n cael ataliad ar y galon.

“Rhoddais hefyd gyfres o siociau iddo gyda diffibriliwr i roi’r cyfle gorau iddo oroesi.

“Fy atgof parhaol o’r swydd honno oedd y parot hwnnw a laniodd ar fy mhen yn ystod y CPR.”

Cefnogwyd Zoey gan y rheolwr gweithrediadau Mike Howells, y parafeddyg Charlotte Plank a'r technegydd meddygol brys Simon Hyatt.

Dywedodd Simon: “Yn ffodus, ni chymerodd lawer cyn i ni gael rhywfaint o ymdrech resbiradol gan Neil, sy'n dyst i ansawdd da'r CPR oedd wedi’i ddarparu iddo cyn i ni gyrraedd.

“Gall CPR cynnar olygu’r gwahaniaeth rhwng rhywun yn goroesi, neu beidio.

“Os gall gwyliwr ddechrau’r gadwyn o oroesi cyn i ni gyrraedd yno, mae’n hanner y frwydr.”

Ychwanegodd Charlotte: “Dyma’r ataliad ar y galon cyntaf i mi ei fynychu ar ôl fy absenoldeb mamolaeth, ac roeddwn i’n teimlo mor falch o fod yn rhan o’r ymdrech tîm hwn.

“Roedd clywed bod Neil wedi goroesi yn rhoi’r wên fwyaf ar fy wyneb.”

Darparwyd cymorth gofal critigol uwch gan y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys mewn hofrennydd elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a chafodd Neil ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, lle gosodwyd dau stent arno.

Treuliodd bum wythnos yn gwella, a thridiau o hynny mewn gofal dwys.

Ddoe, cafodd ei aduno â’r criw ambiwlans yng Ngorsaf Ambiwlans y Ddraenen-wen.

Dywedodd y tad i ddau o blant: “Hyd y gwn i, nid oedd gennyf unrhyw gyflyrau a oedd yn bodoli eisoes, ond bu farw fy nhad yn 47 oed o drawiad ar y galon.

“Roeddwn i hefyd yn ysmygwr trwm, ond rydw i wedi rhoi’r gorau iddi yn gyfan gwbl nawr.

“Rydw i wedi newid fy neiet, rydw i'n cerdded bob dydd ac rydw i hefyd yn cael ffisiotherapi i gryfhau fy nghryfder ar ôl bod yn yr ysbyty am gyfnod hir.

“Rydw i wedi cael ail gyfle mewn bywyd, ac ni allaf ddiolch digon i’r bois hyn.”

Mae Cyngor Dadebru'r DU wedi cynhyrchu canllaw cam wrth gam ar wneud CPR:

Sut i wneud CPR | Cyngor Dadebru'r DU <https://www.resus.org.uk/public-resource/how-do-cpr>

Rhaid i bob diffibriliwr newydd a phresennol fod wedi’i gofrestru ar y rhwydwaith diffibrilwyr cenedlaethol The Circuit er mwyn i drinwyr galwadau 999 allu gweld eu lleoliad:

The Circuit - y rhwydwaith diffibriliwr cenedlaethol <https://www.thecircuit.uk/>


Llwyddodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ddadebru bron i chwarter (23.8 y cant) o’i gleifion trawiad ar y galon y tu allan i’r ysbyty fis Awst diwethaf - y nifer uchaf erioed ers dechrau cadw cofnodion, gan roi’r siawns orau o oroesi i’r cleifion hyn.