Neidio i'r prif gynnwy

Gwarchod adnoddau ambiwlans dros Ŵyl y Banc

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn annog y cyhoedd i warchod ei adnoddau dros benwythnos Gŵyl y Banc.

Cyn y penwythnos tridiau, mae'r Ymddiriedolaeth yn atgoffa pobl i gasglu unrhyw feddyginiaeth presgripsiwn a stocio cyflenwadau cymorth cyntaf i drin mân anafiadau ac afiechydon gartref.

Dywedodd Sonia Thompson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau (Gwasanaeth Meddygol Brys): “Yn draddodiadol rydyn ni’n yn gweld cynnydd yn y galw dros benwythnos Gŵyl y Banc, a does dim disgwyl i’r penwythnos hwn fod yn wahanol.

“Mae mwy o bobl allan yn cymdeithasu neu’n teithio i ymweld â theulu a ffrindiau, ac mae’n bwysig eu bod yn gwybod sut i gael gafael ar y cymorth mwyaf priodol pe baent yn mynd yn sâl neu’n cael anaf.

“Gwefan GIG 111 Cymru ddylai fod y man cyswllt cyntaf ar gyfer cyngor a gwybodaeth iechyd os ydych chi'n sâl neu wedi'ch anafu ac yn ansicr beth i'w wneud.

“Gwnewch yn siŵr eich bod yn casglu unrhyw feddyginiaeth ar bresgripsiwn mewn da bryd, ond os ydych chi wedi colli, anghofio neu wedi rhedeg allan o feddyginiaeth a bod y feddygfa ar gau, yna mae gan rai fferyllfeydd yng Nghymru wasanaeth Cyflenwi Meddyginiaethau Brys rhad ac am ddim.

“Mae fferyllfeydd hefyd ar gael yn rhwydd heb fod angen apwyntiad, gan gynnig cyngor a meddyginiaethau dros y cownter ar gyfer amrywiaeth o fân afiechydon.

“Mae rhai unedau mân anafiadau (MIU) hefyd ar agor dros Ŵyl y Banc a gallant helpu i drin toriadau, dadleoliadau, ymosodiadau, clwyfau a mwy.

“Gallwch ddefnyddio gwefan GIG 111 Cymru i chwilio am fferyllfa sydd ar agor ac uned mân anafiadau yn eich ardal chi, os yw eich un arferol ar gau.

“Mae’n bwysig bod ein hambiwlansys brys yn cael eu gwarchod ar gyfer y rhai sydd ein hangen fwyaf a bod 999 yn cael ei gadw ar gyfer yr argyfyngau mwyaf difrifol sy’n bygwth bywyd yn unig.”

Dyma rai awgrymiadau am sut i gadw’n ddiogel dros Ŵyl y Banc a phob dydd –

Yn eich cartref

  • Os ydych chi'n ymweld â Chymru ar wyliau, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod cyfeiriad eich cartref rhentu, gwesty, maes gwersylla neu faes carafanau - dyma fydd y peth cyntaf y bydd atebwr galwadau 999 yn ei ofyn i chi.
  • Sicrhewch fod enw neu rif eich tŷ yn cael ei arddangos yn glir fel y gall ein hambiwlansys ddod o hyd i chi mewn da bryd.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych chi becyn cymorth cyntaf wedi’i stocio i fyny fel eich bod yn barod i ddelio ag unrhyw fân anafiadau gartref – dyma beth ddylai eich pecyn ei gynnwys.
  • Os ydych chi'n ymwelydd â Chymru, cofiwch ddod ag unrhyw feddyginiaethau presgripsiwn.

Mynd allan

  • Lawrlwythwch yr ap what3words am ddim fel y gall y trinwyr galwadau 999 ddod o hyd i chi'n gyflym mewn argyfwng.
  • Pan fyddwch chi allan ar feic neu sgwter, gwisgwch helmed bob tro a byddwch yn ofalus o ffyrdd prysur a chroesffyrdd yn ddiogel.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod ble mae'ch plant yn mynd i sicrhau nad ydyn nhw'n chwarae mewn unrhyw ardaloedd peryglus fel traciau rheilffordd neu adeiladau gadawedig.
  • Pan fyddwch chi allan gyda ffrindiau, arhoswch gyda'ch gilydd a pheidiwch â gadael ffrindiau i fynd adref ar eu pen eu hunain.
  • Os ydych yn yfed alcohol, byddwch yn ymwybodol o’ch terfynau ac yfwch ddigon o ddŵr gan y bydd yr alcohol yn eich gwneud yn fwy dadhydradedig byth.


Nodiadau gan y golygydd

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y Swyddog Cymorth Cyfathrebu Laura.Abraham@wales.nhs.uk.