Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gynnal ei Gyfarfod Bwrdd

Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn paratoi i gynnal ei gyfarfod Bwrdd bob deufis.

Gall y cyhoedd ymuno â Zoom i glywed uwch arweinwyr yn trafod agenda orlawn, gan gynnwys
datblygu Cynllun Tymor Canolig Integredig 2025-2028, cyn ei gymeradwyo ym mis Mawrth 2025.

Bydd ffilm fer yn cael ei dangos am dreial gwasanaeth cleifion oncoleg y Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol, a bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiwn i’r Bwrdd.

Dywedodd Colin Dennis, Cadeirydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Mae cyfarfodydd Bwrdd yn gyfle i ddysgu am ein gwasanaeth ambiwlans ac i ddeall y prosesau y tu ôl i’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan y Bwrdd.

“Maen nhw hefyd yn gyfle i glywed o lygad y ffynnon am y gwaith sy’n digwydd yma a sut i wella pethau i’n pobl a’n cleifion, yn ogystal â gofyn cwestiynau i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.”

Cliciwch yma i wylio cyfarfod y Bwrdd ddydd Iau 30 Ionawr 2025 o 9.30am.

I gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw, anfonwch e-bost at AMB_AskUs@wales.nhs.uk erbyn dydd Mercher 29 Ionawr 2025 fan bellaf.

Bydd y cyfarfod hefyd yn cael ei ffrydio'n fyw i dudalen Facebook yr Ymddiriedolaeth, a bydd agenda ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn y dyddiau cyn y cyfarfod.