Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gynnal ei Gyfarfod Bwrdd deufisol

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn paratoi i gynnal ei gyfarfod Bwrdd deufisol.

Gall y cyhoedd ymuno ar Zoom i glywed uwch arweinwyr yn trafod taith wella’r Gwasanaeth Cludiant Cleifion Di-frys, cynnydd i leihau niwed i gleifion a fframwaith Codi Llais heb Ofn newydd yr Ymddiriedolaeth.

Bydd swyddog cymorth addysg a hyfforddiant yn trafod ei rôl o fewn y gwasanaeth, a bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiwn i’r Bwrdd.

Dywedodd Colin Dennis, Cadeirydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Mae cyfarfodydd bwrdd yn gyfle i ddysgu am ein gwasanaeth ambiwlans ac i ddeall y prosesau y tu ôl i’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan y Bwrdd.

“Maen nhw hefyd yn gyfle i glywed yn uniongyrchol am y gwaith sy’n digwydd yma a sut i wella pethau i’n pobl a’n cleifion, yn ogystal â gofyn cwestiynau i’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau.”

Cliciwch
yma i wylio cyfarfod y Bwrdd ddydd Gwener 29 Tachwedd 2024 o 9.30am.

I gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw, anfonwch neges e-bost at
AMB_AskUs@wales.nhs.uk erbyn dydd Mercher 27 Tachwedd 2024 fan bellaf.

Bydd y cyfarfod hefyd yn cael ei ffrydio'n fyw i dudalen Facebook yr Ymddiriedolaeth, a bydd agenda ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn y dyddiau cyn y cyfarfod.