11.09.24
MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi penodi Cyfarwyddwr Pobl newydd.
Bydd Carl Kneeshaw, Dirprwy Gyfarwyddwr Pobl yn Ymddiriedolaeth GIG Partneriaeth Iechyd Meddwl Avon a Wiltshire, yn ymuno â'r gwasanaeth ar 1 Tachwedd.
Yn y cyfamser, bydd Angela Lewis, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant yr Ymddiriedolaeth ar hyn o bryd, yn symud i rôl newydd fel Cyfarwyddwr Newid Diwylliant am gyfnod penodol.
Mae gan Carl gyfoeth o brofiad ym maes rheoli adnoddau dynol strategol ac arweinyddiaeth sefydliadol ar ôl dal swyddi arwain uwch yng Ngwasanaeth Carchardai EF, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Gyda’i gefndir cryf mewn arwain sefydliadau hynod gymhleth, rheoli a chyflawni prosiectau trawsnewidiol ar raddfa fawr, mae gan Carl yr adnoddau iawn i arwain ein Gwasanaethau Pobl, Cynllunio’r Gweithlu, Addysg a Datblygiad a swyddogaethau Iechyd a Lles Galwedigaethol wrth i ni barhau ar ein taith tuag at ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol WAST.
“Mae’r penodiad hwn yn rhan o benderfyniad strategol ehangach i sicrhau bod gennym y ffocws a’r arweinyddiaeth gywir yn eu lle i gefnogi ein pobl a’n nodau trawsnewid diwylliannol.
“Yn y cyfamser, yn ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr Newid Diwylliant, bydd Angela yn canolbwyntio ar yrru ein hagenda trawsnewid diwylliannol uchelgeisiol yn ei blaen, symudiad sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i greu diwylliant sefydliadol cynhwysol, cefnogol a diogel.
“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i WAST, a thros y ddwy flynedd nesaf, bydd Angela a Carl yn gweithio’n agos i sicrhau bod ein nodau pobl a diwylliannol yn cyd-fynd yn ddi-dor, a fydd yn y pen draw yn gwella ansawdd y gofal a’r gwasanaeth a ddarparwn.”
Am ei benodiad, dywedodd Carl: “Rwy’n teimlo’n freintiedig i fod yn ymuno â sefydliad sydd mor ymroddedig i’w bobl a’i gleifion.
“Yn fy rôl, bydd fy ffocws ar sicrhau bod cydweithwyr yn meddu ar y sgiliau a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt, gan fuddsoddi yn ein pobl i greu sylfaen gref ar gyfer llwyddiant WAST yn y dyfodol.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag Angela yn ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr Newid Diwylliant a chyfrannu at y daith drawsnewidiol y mae WAST arni.”
Nodyn gan y Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at y Pennaeth Cyfathrebu Lois.Hough@wales.nhs.uk