BYDD Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cynnal eu cyfarfod Bwrdd deufisol yr wythnos nesaf.
Gall y cyhoedd ymuno drwy Zoom i glywed uwch arweinwyr yn trafod agenda llawn eitemau, gan gynnwys cynnydd ar gamau gweithredu i liniaru niwed y gellir ei osgoi i gleifion, cynnydd ar Gynllun Tymor Canolig Integredig 2024-2027 yr Ymddiriedolaeth ac adroddiadau deufisol gan y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr.
Bydd aelod o wasanaeth GIG 111 Cymru yn trafod eu profiadau, a bydd cyfle hefyd i’r cyhoedd ofyn cwestiynau i’r Bwrdd.
Dywedodd y Cadeirydd Colin Dennis: “Mae cyfarfodydd bwrdd yn gyfle i ddysgu am ein gwasanaeth ambiwlans ac i ddeall y prosesau y tu ôl i’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan y Bwrdd.
“Maen nhw hefyd yn gyfle i glywed am y gwaith sy’n digwydd yma ac yn awr i wella pethau i gleifion a staff, yn ogystal â gofyn cwestiynau i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.”
Cliciwch yma i wylio cyfarfod y Bwrdd sy’n digwydd ddydd Iau 25 Ionawr o 9.30am.
I gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw, anfonwch e-bost at AMB_AskUs@wales.nhs.uk erbyn 4:30pm ddydd Mercher 24 Ionawr fan bellaf.
Bydd y cyfarfod hefyd yn cael ei ffrydio'n fyw i dudalen Facebook yr Ymddiriedolaeth, a bydd agenda ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn y dyddiau nesaf.
Nodiadau gan y Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch y Swyddog Cyfathrebu jeff.prescott@wales.nhs.uk neu ffoniwch Jeff ar 07811 748363.