Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn annog y cyhoedd i fod yn synhwyrol y 'Dydd Gwener gwallgof' hwn

16.12.24

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn annog y cyhoedd i yfed yn gyfrifol cyn penwythnos y partis Nadolig.

‘Dydd Gwener gwallgof,’ ‘Dydd Gwener gwyllt’ neu ‘Ddydd Gwener llygad du’ yw un o nosweithiau prysuraf y flwyddyn i’r gwasanaethau brys, wedi’i nodi gan gynnydd yn y defnydd o alcohol ac ymchwydd mewn digwyddiadau a damweiniau.


Y llynedd, derbyniodd y gwasanaeth 1,250 o alwadau i 999 ar y dydd Gwener olaf cyn y Nadolig a 1,932 o alwadau pellach i’w wasanaeth 111.

Roedd hyn yn gynnydd cyffredinol o fwy na 200 o alwadau ers y dydd Gwener blaenorol yn unig.


Wrth i dymor y Nadolig fynd yn ei flaen, mae'r Ymddiriedolaeth yn gofyn i'r rhai sy'n mynychu partis i gadw'n ddiogel.

Sïon sicr ar gyfer noson allan ddiogel:

  • Bwytewch cyn i chi ddechrau eich noson – gall roi mwy o egni, arafu'r alcohol wrth iddo amsugno a byddwch yn teimlo'n well y diwrnod wedyn.
  • Ceisiwch yfed yn araf gyda bylchau – mae diod feddal neu ddŵr rhwng diodydd alcohol yn arafu'r gyfradd yfed.
  • Cynlluniwch eich taith adref – enwebwch yrrwr dynodedig, gwiriwch pryd mae'r trên olaf neu archebwch eich tacsi neu Uber ymlaen llaw.
  • Gofalwch am eich gilydd – gwyliwch allan am ffrindiau a chydweithwyr i sicrhau bod pawb yn cyrraedd adref yn ddiogel.
  • Parchwch weithwyr brys – nid yw byth yn iawn ymosod ar weithwyr brys, hyd yn oed wrth yfed alcohol.
  • Defnyddiwch 999 yn briodol – os nad yw’n argyfwng difrifol neu sy’n bygwth bywyd, ewch i wefan GIG 111 Cymru, neu ffoniwch 111.
     

Dywedodd Jonathan Edwards, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau’r Ymddiriedolaeth (Adnoddau a Chydlynu EMS): “Mae partïon a chwrdd â ffrindiau a theulu yn nodwedd fawr o’r adeg hon o’r flwyddyn, sydd yn ei dro yn rhoi pwysau ar wasanaethau golau glas.

“Mae’n hawdd anghofio faint o alcohol rydych chi wedi’i yfed pan rydych chi’n mwynhau eich hun, ond tra rydyn ni’n delio â digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag alcohol, mae’n bosibl y byddwn ni’n cael ein hoedi cyn trin rhywun sydd â sefyllfa wirioneddol sy’n fywyd neu’n farwolaeth.

“Dydyn ni ddim yn difethwyrn hwyl ond rydyn ni’n gofyn i’r cyhoedd yfed yn gyfrifol a mwynhau eu hunain yn ddiogel.”