Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru heno wedi datgan 'digwyddiad tyngedfennol' oherwydd cynnydd sylweddol yn y galw ar draws y gwasanaeth 999 ac oedi sylweddol wrth drosglwyddo cleifion i ysbytai.
Mae’r galw ar y gwasanaeth 999 yn uchel iawn ar hyn o bryd, gyda mwy na 340 o alwadau yn aros i gael eu hateb ar yr adeg y cyhoeddwyd y digwyddiad critigol.
Yn ogystal, roedd mwy na hanner cerbydau ambiwlans yr Ymddiriedolaeth yn aros i drosglwyddo cleifion y tu allan i ysbytai.
O ganlyniad, mae rhai cleifion wedi aros, ac yn parhau i aros, oriau lawer am ambiwlans, tra ei bod hefyd yn cymryd mwy o amser i ateb galwadau.
Fel rhan o'i chynllun digwyddiadau critigol, mae'r Ymddiriedolaeth wedi cymryd mesurau ychwanegol i sicrhau y gall barhau i ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd a lleddfu'r pwysau ar y gwasanaeth.
Dywedodd Stephen Sheldon, Pennaeth Gwasanaeth: “Anaml iawn y byddwn yn datgan digwyddiad critigol, ond gyda galw sylweddol ar ein gwasanaeth a mwy na 90 o ambiwlansys yn aros i drosglwyddo cleifion y tu allan i’r ysbyty, effeithiwyd ar ein gallu i helpu cleifion.
“Yn anffodus, mae hyn yn golygu y bydd rhai cleifion yn aros yn hirach i ambiwlans gyrraedd ac i’w galwadau gael eu hateb.
“Am hynny, mae’n ddrwg iawn gennym oherwydd nid dyma’r lefel o wasanaeth yr ydym am ei ddarparu.
“Rydym yn deall bod hyn yn rhwystredig i gleifion, ond gallwn eu sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leddfu’r pwysau ar ein gwasanaeth.
“Gall y cyhoedd helpu trwy ffonio 999 dim ond mewn achos o argyfwng sy’n bygwth bywyd – hynny yw ataliad y galon, poen yn y frest neu anawsterau anadlu, colli ymwybyddiaeth, tagu, neu waedu trychinebus.
“Os nad yw’n argyfwng sy’n bygwth bywyd, yna mae’n bwysig eich bod yn defnyddio un o’r dewisiadau amgen niferus i 999, gan ddechrau gyda’r gwirwyr symptomau ar ein gwefan GIG 111 Cymru yn ogystal â’ch meddyg teulu, fferyllydd, ac Uned Mân Anafiadau.
“Rhaid i ni amddiffyn ein hadnoddau gwerthfawr ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf.
“Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith gwych o dan amgylchiadau anodd, ac ni allwn ddiolch digon iddynt am eu gwaith caled yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn ar draws y gwasanaeth iechyd.”