Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn penodi Cyfarwyddwyr Anweithredol newydd

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi penodi dau Gyfarwyddwr Anweithredol newydd i’w Fwrdd.

Mae Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru wedi penodi Peter Curran yn Gyfarwyddwr Anweithredol (Cyllid) ac Ian Mathieson yn Gyfarwyddwr Anweithredol (Academaidd).

Bydd Peter yn dechrau ei dymor pedair blynedd ar 1 Chwefror, tra bydd Ian yn dechrau yn ei swydd ar 1 Ebrill.

Dywedodd Colin Dennis, Cadeirydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Llongyfarchiadau i Peter ac Ian ar eu penodiadau priodol.

“Mae goruchwylio gwaith yr unig wasanaeth brys Cymru gyfan yn dod â set unigryw o heriau, ond daw Peter ac Ian â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd i’n helpu i lywio’r rhain.

“Rwy’n siarad ar ran y Bwrdd cyfan pan ddywedaf ein bod yn edrych ymlaen at weithio gyda Peter ac Ian i wireddu ein huchelgeisiau strategol.”

Mae Peter Curran yn Gymrawd y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth, gyda gradd Economeg o Brifysgol Aberystwyth.

Mae wedi gweithredu fel Prif Swyddog Cyllid am fwy nag 20 mlynedd mewn nifer o sectorau.

Bu’n Is-bennaeth Adnoddau (Adnoddau) yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle bu’n arwain y gwaith o ddatblygu gofodau perfformio newydd arobryn a goruchwylio’r broses o uno’r coleg â Phrifysgol Morgannwg ar y pryd.

Bu hefyd yn Gyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yn Chwaraeon Cymru, yn Gyfarwyddwr Cyllid ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Gyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae Peter yn dal nifer o rolau anweithredol, gan gynnwys yng Nghymdeithas Tai Taf, ac mae’n Ymddiriedolwr yn Gweithredu dros Blant a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

Mae hefyd yn aelod annibynnol o Bwyllgor Archwilio a Risg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn Gymrawd Anrhydeddus o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Ymddeolodd Peter yn rhannol ym mis Gorffennaf 2023, ar ôl gwasanaethu fel Prif Swyddog Cyllid Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru am bum mlynedd.

Dywedodd: “Mae’n fraint cael fy mhenodi i Fwrdd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

“Er bod heriau heb os o’n blaenau, rwy’n edrych ymlaen at gymhwyso fy mhrofiad i ychwanegu gwerth at weithgareddau’r Ymddiriedolaeth a’i helpu i gyflawni ei hamcanion strategol mewn gwasanaeth cyhoeddus hollbwysig yng Nghymru.”


Yn y cyfamser, hyfforddodd Ian Mathieson fel podiatrydd yng Nghaeredin a chafodd ei benodi i’w swydd academaidd gyntaf ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 1996. 

Ymgymerodd â PhD yn canolbwyntio ar fiomecaneg aelodau isaf, a helpodd i ddatblygu cyrsiau Meistr amrywiol, gan gynnwys mewn ymarfer uwch. 

Daeth Ian yn Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu ac yn Ddirprwy Ddeon Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2013, gan gymryd cyfrifoldeb am ystod eang o ddisgyblaethau. 

Symudodd i Brifysgol De Cymru yn 2020 a helpu’r Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg i ymestyn ei phortffolio iechyd i gynnwys ffisiotherapi, therapi galwedigaethol ac ymarfer yr adran lawdriniaethol. 

Yn 2022, daeth yn Ddeon Cyswllt, Partneriaethau a Datblygu Busnes (Iechyd a Gofal Cymdeithasol), gan ganolbwyntio ar reoli ystod o berthnasoedd allweddol yn ymwneud â’r portffolio iechyd a gofal cymdeithasol.

Ers 2019, mae wedi bod yn gweithredu fel Cynghorydd Enwebedig i Lywodraeth Cymru ar gyfer Arloesedd Anadlol Cymru.

Ac ers 2020, mae wedi bod yn Gynullydd Cyngor Deoniaid Iechyd Cymru.

Dywedodd Ian: “Rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn i wasanaethu ar Fwrdd WAST a’i gefnogi i wireddu ei gynlluniau strategol uchelgeisiol ond cyraeddadwy.

“Mae WAST yn gwneud cyfraniad canolog i drawsnewid y ffordd y mae ein gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu ac edrychaf ymlaen at fod yn rhan o’i waith parhaus.”


Mae Bwrdd yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys Cadeirydd, Is-gadeirydd, chwe Chyfarwyddwr Anweithredol, y Prif Weithredwr a phum Cyfarwyddwr Gweithredol.

Mae pedwar Cyfarwyddwr arall a dau bartner Undeb Llafur hefyd yn mynychu'r Bwrdd.

Bydd cyfnod y Cyfarwyddwr Anweithredol (Cyllid) presennol Martin Turner yn dod i ben wrth i Peter ddechrau yn ei swydd fis nesaf.

Yn y cyfamser, bydd tymor y
Cyfarwyddwr Anweithredol (Academaidd) presennol Paul Hollard yn dod i ben wrth i Ian ddechrau yn ei swydd ym mis Ebrill.

Dywedodd Colin: “Rydym yn hynod o ffodus i fod wedi sicrhau gwasanaethau Paul a Martin.  

“Ymunodd Paul â’r Bwrdd yn 2016 a Martin yn 2018.  

“Mae’r ddau wedi cadeirio Pwyllgorau’r Bwrdd, gan gynnwys yn fwy diweddar y Pwyllgor Pobl a Diwylliant a’r Pwyllgor Archwilio yn y drefn honno, ac wedi gwneud cyfraniadau rhagorol i’r Bwrdd dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys drwy’r cyfnod anoddaf yn ein hanes – pandemig COVID-19.   

“Tra bydd Paul yn aros gyda ni am ychydig yn hirach, hoffem ddymuno’r gorau i’r ddau ohonyn nhw i’r dyfodol a diolch iddyn nhw am eu cefnogaeth a’u gwasanaeth.”