MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi penodi dau Gyfarwyddwr Anweithredol newydd i’w Fwrdd.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Hayley Hutchings a Rhiannon Beaumont-Wood am gyfnod o bedair blynedd o 11 Tachwedd 2024.
Ar hyn o bryd mae Hayley yn Athro Ymchwil Gwasanaethau Iechyd ac yn Gyfarwyddwr Uned Treialon Abertawe cofrestredig â Chydweithredu ar Ymchwil Glinigol y DU ym Mhrifysgol Abertawe.
Cyn hynny roedd Rhiannon yn Gyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd, Nyrsio ac Iechyd Cysylltiedig yn Iechyd Cyhoeddus Cymru cyn ymddeol ym mis Mehefin 2023.
Dywedodd Colin Dennis, Cadeirydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Llongyfarchiadau i Hayley a Rhiannon ar eu penodiadau priodol.
“Mae goruchwylio gwaith yr unig wasanaeth brys Cymru gyfan yn dod â set unigryw o heriau, ond mae Hayley a Rhiannon yn dod â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd i’n helpu i oresgyn y rhain.
“Ar ran y Bwrdd cyfan, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Hayley a Rhiannon wrth i ni edrych yn barhaus ar ffyrdd o wella ein gwasanaeth a phrofiad cleifion yng Nghymru.”
Graddiodd Hayley gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Gwyddorau Biofeddygol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a Doethuriaeth mewn Ffisioleg o Brifysgol Caerdydd, lle bu’n gweithio yn y Ganolfan Ymchwil Annwyd a Thrwynol ar ysgoloriaeth ymchwil Proctor and Gamble.
Mae Hayley’n canolbwyntio ar ymchwil yn bennaf, gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad ôl-ddoethurol mewn ymchwil gwasanaethau iechyd a threialon clinigol.
Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion, ymchwil pediatrig, ymchwil cyflyrau cronig a defnyddio data dienw cysylltiedig.
Ar hyn o bryd mae hi'n arwain neu'n darparu mewnbwn i ystod o brosiectau ymchwil o fewn y meysydd hyn ac mae hi wedi cyhoeddi dros 150 o gyhoeddiadau ymchwil hyd yma.
Mae'n aelod o bwyllgor mewnol Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd, sy'n asesu ansawdd cyhoeddiadau ymchwil. Mae hi hefyd yn ymgymryd â gweithgareddau adolygu gan gymheiriaid ar gyfer nifer fawr o gyrff cyllid grant cenedlaethol a rhyngwladol a chyfnodolion meddygol effaith uchel.
Dywedodd Hayley: “Mae’n fraint cael fy mhenodi i Fwrdd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
“Er nad oes amheuaeth gennyf y bydd heriau o’m blaen, rwy’n edrych ymlaen at gymhwyso fy mhrofiad a chyfrannu at weithgareddau’r Ymddiriedolaeth, gan ei helpu i gyflawni ei hamcanion strategol mewn gwasanaeth cyhoeddus hollbwysig yng Nghymru.”
Mae Rhiannon Beaumont-Wood yn nyrs gofrestredig gyda 40 mlynedd o brofiad. Dechreuodd ei gyrfa yn Llundain yn 1981, gan fynd ymlaen i weithio yn y sector iechyd a gofal yng Nghymru a Lloegr.
Gweithiodd mewn rolau amrywiol mewn lleoliadau acíwt, gofal sylfaenol, cymunedol, diogelu, gofal cyn mynd i’r ysbyty, ac iechyd y cyhoedd, gan arwain at gyfnod o ddeng mlynedd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd, Nyrsio a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yn dilyn ymddeoliad o’i rôl weithredol yn 2023, trawsnewidiodd i yrfa bortffolio, gan gyfuno rolau Cyfarwyddwr Anweithredol â Bwrdd Gofal Integredig Dorset ac mae’n aelod o Gyngor Cofrestredig Cymru o fewn y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Mae Rhiannon wedi bod yn Ymddiriedolwr i ddwy elusen yn y gorffennol, un yn cefnogi dioddefwyr a goroeswyr Cam-drin Domestig, a’r llall yn cefnogi arweinyddiaeth broffesiynol.
Mae hi hefyd yn gwnselydd integredig hyfforddedig ac yn hyfforddwr arweinyddiaeth proffesiynol ac uwch arweinydd wedi'i hyfforddi gan Meyler Campbell ac mae ganddi ei busnes hyfforddi ei hun.
Mae Rhiannon yn angerddol am yr angen am ddulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn/pobl tuag at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, sy’n canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar ac yn ymdrechu i sicrhau diwylliannau sefydliadol a chymdeithasol sydd â chydraddoldeb ac amrywiaeth yn ganolog iddynt.
Dywedodd Rhiannon: “Rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn i wasanaethu ar Fwrdd WAST a’i gefnogi i wireddu ei gynlluniau hirdymor uchelgeisiol ond cyraeddadwy.
“Mae WAST yn rhan bwysig o’r ffordd mae ein gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu ac edrychaf ymlaen at symud ymlaen â’r gwaith hwnnw.
”Mae Bwrdd yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys Cadeirydd, Is-gadeirydd, wyth Chyfarwyddwr Anweithredol, y Prif Weithredwr a phum Cyfarwyddwr Gweithredol.
Mae pedwar Cyfarwyddwr arall a dau bartner Undeb Llafur hefyd yn mynychu'r Bwrdd.