Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ymuno â St John Ambulance Cymru ar fenter achub bywyd newydd

14.10.24

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a St John Ambulance Cymru wedi ymuno ar fenter achub bywyd newydd.


Mae Ymatebwyr Amgen Gwirfoddol yn cael eu hyfforddi gan St John Ambulance Cymru i ymateb i argyfyngau meddygol yn eu cymuned.

Caiff galwadau eu brysbennu gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru i wirfoddolwyr ar alwad gerllaw sy'n defnyddio eu set sgiliau i ddarparu gofal achub bywyd yn y munudau cyn i ambiwlans gyrraedd.

Rhaeadr Gwy ym Mhowys oedd y gymuned gyntaf i fabwysiadu’r cynllun newydd, gyda chynlluniau yng Nghaerffili, Hwlffordd, Trefyclo a Rhuthun yn mynd yn fyw fis diwethaf.

Dywedodd Judith Bryce, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau (Gweithrediadau a Chymorth Cenedlaethol) Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda St John Ambulance Cymru unwaith eto ar fenter arall sydd â'r potensial i achub bywydau.

“Mae gwirfoddoli gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi dod yn bell yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, a’r cynllun Ymatebwyr Amgen Gwirfoddol yw’r diweddaraf mewn cyfres o gynlluniau newydd a chyffrous i gofleidio ein gwirfoddolwyr ymhellach a gwneud cymunedau ledled Cymru yn fwy diogel i bawb.

“Mae ein gwirfoddolwyr yn dod o bob cefndir, ond un peth sydd ganddyn nhw’n gyffredin yw’r ymrwymiad i roi eraill o flaen eu hunain a sicrhau bod gan gymunedau Cymru rywun y gallant ddibynnu arno ar adegau o angen.

“Nid yw’r angen am y gwydnwch cymunedol hwnnw erioed wedi bod yn bwysicach.”

Mae St John Ambulance Cymru eisoes yn rhedeg cynlluniau tebyg mewn cymunedau ledled Cymru.

Dywedodd Darren Murray, Pennaeth Gweithrediadau Cymunedol yn St John Ambulance Cymru: “Mae gwirfoddolwyr St John Ambulance Cymru wedi bod yn camu i’r adwy i ddarparu cymorth cyntaf a chymorth achub bywyd mewn cymunedau ledled Cymru ers dros ganrif, a’r cynllun newydd hwn yw’r ffordd ddiweddaraf y mae eu hymroddiad a’u sgiliau yn helpu pobl i gael yr help sydd ei angen arnynt mor gyflym ag y bo modd.

“Mae ein cymuned o wirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser yn rheolaidd i fireinio eu sgiliau fel eu bod yn barod rhag ofn bod angen help ar rywun, boed gartref neu mewn un o gannoedd o ddigwyddiadau y maen nhw’n darparu cymorth cyntaf bob blwyddyn.”

Y tu hwnt i’r bartneriaeth â St John Ambulance Cymru, mae nifer o gyfleoedd gwirfoddoli eraill yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru y mae mwy na 600 o aelodau’r cyhoedd ledled Cymru yn rhoi o’u hamser i’w cefnogi.

Mae’r rhain yn cynnwys –

Ymatebwyr Lles Cymunedol
Mae Ymatebwyr Lles Cymunedol (CWRs) yn cael eu hyfforddi i fynychu galwadau 999 priodol yn eu cymuned leol.

Maen nhw’n cymryd set gychwynnol o arsylwadau, gan gynnwys pwysedd gwaed a lefelau ocsigen, ac yn adrodd yn ôl i glinigwyr yn ystafell reoli'r ambiwlans, sy'n pennu'r camau nesaf priodol.

Gallai hynny fod yn atgyfeiriad at feddyg teulu’r claf, cyngor hunanofal, anfon adnodd ambiwlans neu rywbeth arall.

Yn eu plith mae Chloe Hobbs, 20, o Ddinas Powys, anfonwr awyrennau ym Maes Awyr Caerdydd, a gwblhaodd ei hyfforddiant CWR ym mis Mehefin.

Fis diwethaf, aeth hi i helpu dyn oedrannus ym Mhen-y-bont ar Ogwr a gweithiodd gyda chydweithwyr yn y gwasanaeth ambiwlans a gofal sylfaenol i gefnogi’r claf i aros gartref.

“Pan gyrhaeddon ni, roedd yn amlwg bod y gŵr yn sâl,” meddai Chloe.

“Roedd pethau wedi cymhlethu oherwydd y ffaith mai fe oedd unig ofalwr am ei wraig, a phe bai’n gorfod mynd i’r ysbyty byddai angen iddi hi fynd hefyd - roedd e’n benderfynol nad oedd e eisiau hynny.

“Gwnes i gyfres o arsylwadau a rannais gyda chlinigydd yr ystafell reoli, a benderfynodd fod angen asesiad mwy manwl gan Uwch Ymarferydd Parafeddygol ar y claf.

“Gyda’n gilydd, gwnaethon ni gysylltu â meddyg teulu’r claf i greu cynllun i’w gadw gartref a chael y cymorth a oedd angen angen arno i barhau i fyw’n annibynnol.

“Gweithiodd pawb gyda’i gilydd i ddod o hyd i ddatrysiad.”

Cefnogwyd Chloe yn y fan a'r lle gan y Swyddog Cefnogi (Gwirfoddoli) Nik Dart.

Dywedodd Nik: “Diolch i’n arsylwadau wyneb yn wyneb, ynghyd ag asesiad o bell gan glinigwr yr ystafell rheoli, asesiad personol gan Uwch Ymarferydd Parafeddygol ac ymgynghoriad â meddyg teulu’r dyn, fe gafodd y gofal mwyaf priodol ar ei gyfer.

“Cefnogi mwy o gleifion yn ddiogel i aros gartref yw hanfod menter CWR.”

I’r bobl sy’n dymuno dod yn CWR, dywedodd Chloe: "Wrth ymuno â’r rôl hon, ro’n i'n eithaf pryderus i weld a fyddwn i'n gallu helpu ac yn cefnogi cleifion.

“Er fy mod yn ddinesydd a bod fy ngwybodaeth feddygol yn sylfaenol iawn, mae gennym ni rôl bwysig i'w chwarae o hyd wrth helpu cleifion i gael y gofal neu'r cyngor iawn, yn y lle iawn, bob tro.

“Rydyn ni yno i bobl yn eu hawr o angen, yn ei dro yn cryfhau’r gwydnwch cymunedol hwnnw.”

Gyrwyr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol
Mae Gyrwyr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol yn defnyddio eu cerbydau eu hunain i gludo pobl i ac o apwyntiadau ysbyty arferol, gan gynnwys dialysis, oncoleg ac apwyntiadau cleifion allanol.

Y llynedd, cwblhawyd 41,599 o deithiau ledled Cymru gan y tîm, gan deithio bron i filiwn a hanner o filltiroedd yn eu cerbydau eu hunain.

Fel rhan o fenter newydd, mae cleifion canser wedi cael eu paru â gwirfoddolwr penodol i wella eu profiad.

Dywedodd Gareth Parry, Rheolwr Gweithrediadau (Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol): “Mae Gyrwyr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol yn cludo miloedd o gleifion bob blwyddyn i’w hapwyntiadau ysbyty ac yn ôl.

“Mae nifer dda o’r rheini yn gleifion canser y gall eu triniaeth fod yn ddwys, yn aml yn gemotherapi dyddiol, radiotherapi neu imiwnotherapi dros sawl wythnos, er enghraifft.

“Dywedodd cleifion wrthym am bwysigrwydd cyrraedd yr apwyntiadau hyn mewn pryd ac am yr angen am barhad trafnidiaeth, a dyna sut cafodd ein menter oncoleg ei chreu.

“Mae cleifion yn cael eu 'cyfeillio' i un gwirfoddolwr yn unig, sy'n rhoi'r dilyniant hwnnw iddynt, yn meithrin cydberthynas ac yn tynnu'r gorbryder allan o gludiant ar adeg sydd eisoes yn bryderus.

“Mae pawb ar yr un dudalen ac yn gwybod beth sy'n digwydd ar gyfer unrhyw daith benodol.

“Rydym wedi gwneud mwy na 2,500 o deithiau oncoleg ers i’r peilot ddechrau ym mis Mawrth, ac mae’r adborth gan gleifion – a gwirfoddolwyr – wedi bod yn hynod gadarnhaol.”

Mae'r fenter bellach yn cael ei chyflwyno ledled Cymru.

Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned
Mae Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned yn mynychu galwadau 999 yn eu cymuned ac yn rhoi cymorth cyntaf yn y munudau cyntaf gwerthfawr cyn i ambiwlans gyrraedd. 

Maen nhw’n cael eu hyfforddi gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru i roi cymorth cyntaf, gan gynnwys therapi ocsigen ac adfywio cardio-pwlmonaidd, yn ogystal â defnyddio diffibriliwr.

Y llynedd, am y tro cyntaf mewn gwasanaeth ambiwlans yn y DU, fe wnaethon nhw hefyd cael hyfforddiant i roi Methoxyflurane, neu Penthrox, cyffur sy'n gweithredu'n gyflym a ddefnyddir i leihau poen mewn cleifion ag anaf trawmatig fel toriad, dadleoliad, rhwygiad difrifol neu losgiadau.

Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn cydweithio â sefydliadau partner ar nifer o fentrau gwirfoddoli eraill, gan gynnwys –

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn darparu cymorth ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gleifion sydd wedi cwympo, ac i’r cleifion hynny sy’n dioddef ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty.

I’r cleifion hyn, gall ymatebwyr cyntaf mewn lifrai wneud gwahaniaeth i ganlyniadau cleifion a phrofiad y claf cyn i’r gwasanaeth ambiwlans gyrraedd.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd gwirfoddoli yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru, ewch i: Gwirfoddoli i Ni - Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru