Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddolwr ambiwlans yn ennill gwobr arwyr

MAE GWIRFODDOLWR gyda Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi ennill gwobr am ei gyfraniad i’w gymuned.

Mae Gwirfoddolwr Ymatebwr Cyntaf Cymunedol (CFR) Gareth Goff wedi ennill Gwobr Cyfraniad Eithriadol yng Ngwobrau Arwyr Tawel Pen-y-bont ar Ogwr 2024 nos Wener.

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd gan Gymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO), yn cydnabod ac yn anrhydeddu pobl a sefydliadau eithriadol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'w cymuned yn ystod y flwyddyn.

Dywedodd Gareth, sydd â degawd o brofiad gwirfoddoli gyda’r gwasanaeth ambiwlans: “Dydw i ddim yn un i geisio bod yng ngolwg y cyhoedd ac yn gyffredinol mae'n well gen i weithio'n dawel yn y cefndir, ond mae'n braf cael fy enwebu.

“Mae ennill yn golygu bod Tîm WAST yn ennill.

“Mae’r wobr hon yn mynd i’r holl wirfoddolwyr sy’n gweithio i’r Ymddiriedolaeth.”

Mae’r dyn 54 oed sydd â 30 mlynedd o wasanaeth yn y GIG, yn cydbwyso ei rôl wirfoddoli â’i swydd fel radiograffydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Dywedodd: “Ces i fy ysbrydoli i ymuno â’r rôl gan Stephen Roberts, hyfforddwr CFR wedi ymddeol.

“Ro’n i weithiau wedi cael gwybod ar ôl y ffaith am gleifion yn fy nghyffiniau lleol yn cael ataliadau ar y galon gyda chanlyniadau gwael ac o’n i'n meddwl y gallwn i fod wedi dechrau'r 'gadwyn oroesi' yn gynharach i helpu i wella eu siawns.

“Dwi hefyd yn mwynhau helpu pobl yn gyffredinol lle y gallaf. 

“Pan ‘dych chi’n cyrraedd, yn aml ‘dych chi’n gallu gweld y rhyddhad ar wyneb claf neu berthynas.

“Mae gwirfoddoli yn rhoi boddhad mawr ac mae’n fraint cael helpu rhywun yn eu horiau tywyllaf i ddod â chysur a chefnogaeth iddyn nhw lle ‘dych chi’n gallu.”

Gwirfoddolwyr yw Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol sy’n cael eu hyfforddi a’u hanfon gan wasanaethau ambiwlans yn eu cymunedau lleol i ddarparu triniaeth a chymorth achub bywyd hanfodol yn y munudau hollbwysig hynny cyn i’r criw ambiwlans gyrraedd.

Dywedodd Nik Dart, Swyddog Cefnogi Gwirfoddoli a CFR gyda Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Enwebais Gareth ar gyfer Gwobr Arwyr Tawel BAVO gan ei fod yn ymgorffori ymddygiadau’r Ymddiriedolaeth ac ethos yr Ymddiriedolaeth, i gefnogi, i wasanaethu, i achub.

“Tra’n gweithio’n llawn amser fel radiograffydd i’r GIG ochr yn ochr â bywyd teuluol, mae’n gwirfoddoli fel CFR sydd ar gael bron bob nos ac ar benwythnosau, gan gynnig gwydnwch cymunedol yn y Pîl a’r cyffiniau.

“Yn ei rôl CFR, mae Gareth yn mynychu cleifion blaenoriaeth uchel, ac yn aml fe yw’r cyntaf yn y fan a’r lle sy’n darparu ymyriadau a chymorth achub bywyd.

“Dros y deng mlynedd diwethaf, mae gennym ni aelodau o’r gymuned sydd wedi profi’r canlyniad gorau posib oherwydd ymyrraeth amserol Gareth ac ymroddiad i’r Ymddiriedolaeth.”

Cynhaliwyd Gwobrau Arwyr Tawel Pen-y-bont ar Ogwr 2024 yng Ngwesty Heronston, lle ymunodd ei wraig Sarah Goff a’i chydweithiwr Nik Dart â Gareth.

Os hoffech ymuno â Gareth a'r Tîm Gwirfoddolwyr Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol, cliciwch yma.

Nodiadau gan y golygydd

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at yr Arbenigwr Cyfathrebu Beth.Eales@wales.nhs.uk