Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddolwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ymddeol ar ôl mwy na thri degawd o wasanaeth

MAE DYN Glan Conwy wedi rhoi 33 mlynedd o wasanaeth fel Gyrrwr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol

Mae Ted Chambers o Glan Conwy, gogledd Cymru, wedi penderfynu o’r diwedd ei bod yn bryd camu’n ôl o’i rôl fel Gyrrwr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol, rhywbeth y mae wedi bod yn ei wneud ers 1991.

Dechreuodd Ted, 77, sy'n wreiddiol o Sheffield, gynnig ei wasanaethau yn y 1990au cynnar ar ôl cychwyn cwmni tacsis ar Ynys Môn.

Dywedodd Ted, sy’n daid i 13 ac sy’n briod â Lysette, 65: “Byddai adegau yn ystod yr wythnos pan fyddai gen i gwpl o geir yn fy nghwmni tacsis yn segur yn gwneud dim byd, ac roeddwn i’n meddwl ei fod yn gymaint o wastraff.

“Roeddwn i eisiau helpu a chysylltais â’r gwasanaeth i weld a oedd unrhyw beth y gallwn ei wneud.

"Ar ôl cyfnod byr, dechreuais gludo cleifion, ac weithiau, gofynnwyd i mi gasglu llawfeddygon ac organau a roddwyd o faes awyr y Fali ar Ynys Môn a'u cludo i ble bynnag oedd angen iddyn nhw fynd.”

Parhaodd Ted i gynnig defnydd o'i gerbydau a'i wasanaethau tan 1998 pan werthodd y cwmni tacsis.

Fodd bynnag, roedd yn mwynhau gwirfoddoli cymaint felly wnaeth e barhau i gynnig ei wasanaethau am y 26 mlynedd nesaf, gan gludo cleifion ledled y wlad a theithio mor bell â Fife yn yr Alban ac yn aml i Lundain.

Mae Gyrwyr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol yn cludo cleifion rhwng eu cartrefi a’u hysbytai i fynychu apwyntiadau meddygol a allai olygu teithiau lleol neu bell i ysbytai ledled Cymru, Lloegr ac ar adegau prin, hyd yn oed ymhellach i ffwrdd.

Dywedodd Gareth Parry, Rheolwr Gweithrediadau’r Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol: “Mae Ted wedi bod yn rhan allweddol o’r Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol dros y 33 mlynedd diwethaf.

“Trwy gydol y cyfnod hwnnw, mae wedi cael effaith hynod gadarnhaol ar filoedd o gleifion ar draws gogledd Cymru, gan deithio cannoedd o filoedd o filltiroedd.

“Mae Ted bob amser wedi rhoi’r claf yn gyntaf ac mae hyd yn oed wedi mynd i’r drafferth o ddewis ei geir newydd gyda’i gleifion mewn golwg.

“Mae pawb yn y tîm yn drist i weld Ted yn gadael ond yn dymuno’r gorau iddo yn y dyfodol ac ar ran yr Ymddiriedolaeth, hoffem ddiolch iddo am ei wasanaeth rhagorol i wirfoddoli gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.”

Fel Gyrrwr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol, byddai Ted yn mynd â chleifion yn ôl ac ymlaen i driniaethau ar gyfer pob math o gyflyrau, gan gynnwys oncoleg, gofal arennol ac offthalmig.

Dywedodd: “I mi, roedd helpu’r bobl a oedd yn cael pethau’n anodd ac yn mynd trwy gyfnodau anodd oherwydd eu hiechyd yn rhoi teimlad o bwrpas gwirioneddol i mi ac mi wnaeth helpu mi i ddod i delerau a goroesi cyfnodau anodd yn fy mywyd personol.

“Mae gen i gymaint o atgofion gwych ac rwy’n gallu cofio llawer o’r bobl hyfryd, diddorol ces i’r pleser o sgwrsio â nhw ar ein teithiau.

“Rwy’n cofio’n bendant mynd â chlaf yn ei 90au i Lerpwl am driniaeth ac yn ystod y daith, dywedodd straeon am ei bywyd anhygoel wrtha i, a’r holl bethau yr oedd wedi’u cyflawni.

“Roedd hi’n cario lluniau gyda hi oedd yn mynd yn ôl i pan oedd hi yn ei 20au ac fe ddaeth hi’n amlwg yn gyflym ei bod hi wedi byw bywyd rhyfeddol.

“Roedd yn un o’r teithiau mwyaf cofiadwy o’m holl amser fel Gyrrwr VCS ac roeddwn bob amser yn mwynhau’r eiliadau hynny, yn siarad â chleifion, yn cysylltu â nhw ac yn gwybod eu bod yn gyfforddus ac am y cyfnod hwnnw o leiaf, heb boeni am eu salwch neu eu triniaeth.”

Dywedodd Jenny Wilson, Rheolwr Gwirfoddolwyr Cenedlaethol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae gwirfoddoli gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi dod yn bell ers i Ted ymuno â ni ymhell yn ôl yn y 1990au cynnar.

“Mae'r Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol (VCS) yn gogan pwysig yn olwyn y gwasanaeth di-frys.

“Mae gwirfoddolwyr yn dod i adnabod eu cleifion, yn enwedig y rhai maen nhw’n eu cludo’n rheolaidd, ac mae’n brofiad llawn cymaint o foddhad iddyn nhw ag ydyw i gleifion.”

Ychwanegodd Judith Bryce, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau’r Ymddiriedolaeth: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Ted am y rhodd o wirfoddoli a hoffem ddiolch iddo am ei wasanaeth a dymuno’n dda iddo yn ei ymddeoliad.”

Nid yw'r ffaith nad yw Ted bellach ar y ffyrdd fel Gyrrwr VCS, nid yw'n golygu ei fod yn rhoi’r gorau i yrru’n gyfan gwbl.

Yn lle hynny, mae Ted yn bwriadu mwynhau ei ymddeoliad trwy gyfnewid pedair olwyn am dair ac mae bellach yn berchennog treic y mae'n bwriadu ei reidio o amgylch gogledd Cymru a thu hwnt.

Pan ofynnwyd iddo pa gyngor y byddai’n ei roi i bobl sy’n ystyried ymuno â Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol yr Ymddiriedolaeth, dywedodd Ted: “Rhaid i chi fod yn angerddol amdano.

“Ydych, ‘dych chi’n cael eich talu am dreuliau ond nid yw'n ymwneud ag arian, mae'n ymwneud â gwneud gwahaniaeth a helpu pobl.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd gwirfoddoli yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru, ewch i: Gwirfoddoli i Ni - Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru