Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ennill gwobr am ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi ennill gwobr fawreddog am eu hymdrechion i fynd i’r afael â gwahaniaethu yn y gweithle.

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi ennill Gwobr HPMA Cymru 2024 am ei menter ‘Bystander to Upstander’, a luniwyd nid yn unig i godi ymwybyddiaeth ymhlith staff o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ond hefyd i roi arfau ymarferol iddynt herio gwahaniaethu ac ymddygiad amhriodol.

Mae'n un o nifer o fentrau a newidiadau rhaglennol a gyflwynwyd gan y sefydliad yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf i hyrwyddo diwylliant o gynhwysiant.

Dywedodd Paola Spiteri, Arweinydd Cadw’r Ymddiriedolaeth: “Pan fydd pobl ar eu trai isaf, ni yw’r bobl maen nhw’n troi atynt, felly rydym yn disgwyl y safonau proffesiynol uchaf gan bawb yn ein sefydliad.

“Diolch byth, mae mwyafrif ein pobl sy’n gweithio’n galed yn ategu ein gwerthoedd a’n hymddygiad, ond mae bob amser fwy y gallwn ei wneud i hyrwyddo diwylliant sefydliadol cynhwysol, ac mae’r fenter hon yn symbol o’n hymrwymiad i wneud hynny.

“Trwy ddarparu staff nid yn unig â’r wybodaeth ond y sgiliau ymarferol i ymyrryd yn ddiogel mewn sefyllfa broblemus, rydym yn trawsnewid o wylwyr goddefol i ymyrwyr rhagweithiol.”

Mae mwy na 200 o staff ledled Cymru wedi cwblhau hyfforddiant gwylwyr gweithredol ers mis Mai 2023.

Dywedodd naw deg y cant o'r cydweithwyr a gwblhaodd y rhaglen hyfforddi diwrnod llawn eu bod wedi dysgu o'r sesiwn, a dywedodd 93 y cant y byddent yn cymhwyso'r dysgu yn aml.

Dywedodd Angela Lewis, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant: “Nid ydym yn goddef ymddygiad amhriodol neu wahaniaethol, bwlio nac aflonyddu o unrhyw fath, ond nid yw dweud hyn yn ddigon, a dyna pam rydym yn cymryd perchnogaeth lawn o’r broblem ac yn mynd i’r afael â newid diwylliant yn wahanol iawn.

“Rydym mor ddiolchgar i gydweithwyr sydd wedi dod o hyd i’r cryfder a’r dewrder i godi llais wrth i ni lywio’r materion hyn gyda’n gilydd a pharhau i wrando.

“Mae creu gweithlu amrywiol a diwylliannol ymwybodol sy’n dangos parch, empathi a dealltwriaeth at eraill yn flaenoriaeth.

“A phan all pawb ddod â’u hunan cyfan i’r gwaith, mae’n ein helpu ni i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib i bobl Cymru.”

Darllenwch fwy am uchelgais Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i greu amgylchedd gwaith mwy cynhwysol yn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol sydd newydd ei gyhoeddi:

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru